Fel Canolfan Awyr Agored Genedlaethol, mae Plas y Brenin yn datblygu’r bobl sy’n datblygu’r sector awyr agored - o hyfforddwyr i reolwyr canolfan i arweinwyr alldeithiau i swyddogion Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a llunwyr polisi. Mae hyn yn cynnwys datblygu hyfforddwyr sy’n ysbrydoli, hyfforddwyr ac arweinwyr mewn chwaraeon antur, boed yn wirfoddolwyr neu’n gweithio’n broffesiynol yn y sector, er mwyn rhoi gwell cefnogaeth i bobl o bob cefndir i fod yn actif yn yr awyr agored.
Trwy gynnal cynadleddau, symposia a chyfarfodydd, rydym yn dwyn ynghyd ymarferwyr o bob rhan o’r DU (a thu hwnt) i rannu dysgu, trosglwyddo arferion da a chodi safonau. Mae’r lleoliad ysbrydoledig hwn, sydd ag enw da ledled y byd, wedi ymrwymo hefyd i helpu unigolion i feithrin eu sgiliau a hyder ar gyfer anturiaethau annibynnol. Sport England yw perchnogion Plas y Brenin ac mae’n cael ei reoli ar eu rhan gan yr elusen addysgol, y Mountain Training Trust.