Skip to main content

Rhondda Cynon Taf Council [RCT]

Rhondda Cynon Taf Council [RCT] logo
Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am wasanaethau ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd, casglu sbwriel ac ailgylchu, tai a cheisiadau cynllunio.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig prentisiaethau ar draws eu meysydd gwasanaeth gwahanol gan gynnwys peirianneg, garddwriaeth, gwasanaethau plant ac oedolion ac adnoddau dynol.

Pryd mae Cyngor Rhondda Cynon Taf fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Bydd y Cyngor yn dechrau hysbysebu am rolau ym mis Chwefror, gyda manylion y swyddi sydd ar gael yn ‘fyw’ ar y Gwasanaeth Cyfleoedd Prentisiaethau ym mis Mai. Bydd prentisiaid llwyddiannus yn dechrau ar eu gwaith ym mis Medi.

Beth mae Rhondda Cynon Taf yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Bydd angen cymwysterau blaenorol ar gyfer rhai rolau, er bod sgiliau bywyd lawn mor bwysig. Mae’r cyngor yn chwilio am ymgeiswyr â gwerthoedd sy’n cyfateb i rai’r cyngor; cryfhau economi Rhondda Cynon Taf, creu cymdogaethau cadarnhaol a hyrwyddo annibyniaeth i weithwyr.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Bydd hyn yn dibynnu ar y rôl dan sylw, er y bydd pob prentis yn cychwyn trwy gysgodi aelodau cymwys o’r staff er mwyn dod yn gyfarwydd â’r amgylchedd a’r gwaith.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda Cyngor Rhondda Cynon Taf?

Fel gweithwyr llawn amser y cyngor, mae gan brentisiaid hawl i gael 25 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc, hyfforddiant mewnol, cyfraniad at gynllun pensiwn a rhai o fuddion y staff. Mae gan Gyngor RhCT gyfradd cyflawni cymwysterau 100%.

 

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

The Pavilions, Cambrian Park


CF40 2XX

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .