Skip to main content

Taff Housing Association

Nifer yr cyflogeion:
51-250
Lleoliadau:
Caerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr
Sector:
Gwasanaethau Eiddo

Trosolwg o'r cwmni

Mae Taf yn angerddol dros helpu teuluoedd sydd ag anghenion tai. Rydym yn berchen ar ac yn rheoli dros 1,500 o gartrefi ledled Caerdydd ac yn daprau gwasanaethau cymorth i dros 1,000 o bobol ledled y De.

Cyfleoedd a gynigir

Gweinyddu busnes prentisiaeth

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Darparu cymorth gweinyddol. Byddwn yn rhoi’r holl hyfforddiant ac adnoddau sydd eu hangen arnoch chi i reoli dyddiaduron, trefnu cyfarfodydd, casglu a dadansoddi data a datblygu i fod yn aelod allweddol o’r tîm.

Buddion sydd ar gael

Byddwch yn cael eich hyfforddi ac yn cael gwaith gwerth chweil i’w wneud. Rydym yn dîm gwych ac yn ceisio dangos ein gwerthoedd o ran ymddiriedaeth, uchelgais, dysgu a charedigrwydd yn gyson.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Craffter digidol, yn gallu defnyddio technoleg/offer diweddaraf Taf. Parod i weithio gyda ffocws ar ‘gyflawni’r gwaith’. Chwarae’ch rhan wrth fynd i’r afael â gwahaniaethu a rhagfarn. Agwedd gadarnhaol a pharod i droi llaw at unrhyw beth.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Mae Taf yn gyflogwr cyflog byw go iawn. Yn 2021 nid oes neb yn derbyn llai na £9.50 yr awr o dâl. Hefyd, byddwch yn cael eich hyfforddi ac amser i ffwrdd ar gyfer arholiadau.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Yn ôl y gofyn

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

Ydyn

Lleoliad

Alexandra House
307-315 Cowbridge Rd E

CF5 1JD

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .