Skip to main content

Skye Instruments Limited

Nifer yr cyflogeion:
11-20
Lleoliadau:
Llandrindod Wells
Sector:
Gweithgynhyrchu Uwch

Trosolwg o'r cwmni

Mae Skye Instruments yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr ac sy’n cynllunio a gweithgynhyrchu amrywiaeth o offer electronig a ddefnyddir ym maes monitro amgylcheddol. Mae gan Skye enw rhagorol am gynhyrchion o ansawdd a gwasanaeth cwsmeriaid.

Cyfleoedd a gynigir

Technegydd Cynhyrchu – Prentisiaeth Gwella Perfformiad Gweithredol Lefel 2, yn cynnwys: Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu, Tystysgrif BTEC Pearson Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peirianneg, Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Mae’r gwaith o natur gymhleth a chywrain a byddech yn trafod llawer o gydrannau electronig ac optegol bach a sensitif. Mae elfen o’r gwaith yn cynnwys defnyddio peiriannau, fel dril piler, cylchlif a llifanydd mainc. Mae ein prif ffocws ar gyrraedd safonau ansawdd uchel.

Buddion sydd ar gael

Rydym yn gwmni bach a chyfeillgar a’r gweithwyr yw perchnogion y cwmni. Rydym yn cynnig prentisiaethau peirianneg poblogaidd yn y Canolbarth. Gan mai’r gweithwyr yw’r perchnogion byddwch yn gymwys am gynllun elw yn unol â’r telerau ac amodau.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn chwilio am rywun sydd â hobïau o natur ymarferol sy’n golygu defnyddio eu dwylo, e.e. gwneud modelau, gwaith crefft, gwniadwaith, gyda medrusrwydd corfforol a hyder wrth ddefnyddio peiriannau a’r gallu i weithio fel rhan o dîm neu ar ei ben ei hun. Byddai hefyd angen bod yn amyneddgar, gallu canolbwyntio a rhoi sylw i fanylder ac ansawdd.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Yn dechrau ar y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oed (NID cyflog is prentis)

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Pan fydd swyddi ar gael

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

Saesneg

Lleoliad

Unit 21
Ddole Enterprise Park

LD1 6DF

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .