Skip to main content

Llewellyns Limited

Nifer yr cyflogeion:
11-20
Lleoliadau:
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Sector:
Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol

Trosolwg o'r cwmni

Mae Llewellyns Chartered Certified Accountants yn bractis cyfrifyddiaeth ddigidol sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Ngogledd Caerdydd. Rydym yn darparu cyngor arbenigol i fusnesau newydd a sefydledig ac yn prosesu cyfrifon, cadw llyfrau, cyflogres a gwasanaethau hanfodol eraill.

Cyfleoedd a gynigir

Cymwysterau Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT)

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

  • Dyletswyddau gweinyddu swyddfa cyffredinol
  • Dyletswyddau mewnbynnu data fel prosesu datganiadau banc, cyfrifon sieciau ac ati
  • Cysoni data cadw llyfr digidol gyda meddalwedd (e.e. Quickbooks, Xero)
  • Darparu cymorth i gwsmeriaid gydag ymholiadau syml
  • Gweithio gydag uwch gyfrifyddion profiadol i gefnogi eu dyletswyddau a’r cwmni yn ehangach

Buddion sydd ar gael

Mae Llewellyns ar reng flaen cyfrifyddiaeth ddigidol fodern. Byddwn yn darparu amgylchedd dysgu a gwaith cyfforddus a chefnogol gyda’r adnoddau gorau ar gyfer y swydd. Rydym yn sicrhau cydbwysedd bywyd a gwaith iach.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

  • Mae arnom angen sgiliau TG cadarn, gyda hyfedredd mewn cymwysiadau Microsoft Office
  • Hyder mewn Mathemateg ar lefel sylfaenol
  • Mae cydweithio gydag aelodau tîm eraill ar ymholiadau cymhleth neu dasgau hirach yn hanfodol
  • Dyhead o gamu ymlaen a gyrfa hirdymor mewn cyfrifyddiaeth a chyllid

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

  • Swyddi yn dechrau ar gyflog Prentisiaeth Genedlaethol
  • Bydd tâl yn cynyddu yn unol â phrofiad a pherfformiad

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Rydym yn gwmni sy’n tyfu ac yn recriwtio’n rheolaidd yn ôl yr angen

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

Er bod gennym rywfaint o ddarpariaeth Gymraeg, cynhelir y rhan fwyaf o’n gwaith yn Saesneg.

Lleoliad

Brook House, Brook Road


CF14 1DU

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .