Skip to main content

Blake Morgan LLP

Nifer yr cyflogeion:
500+
Lleoliadau:
Caerdydd, Reading, Rhydychen, Llundain a Southampton
Sector:
Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol

Trosolwg o'r cwmni

Un o gwmnïau cyfreithiol sy’n cynnig gwasanaeth llawn mwyaf blaenllaw y DU. Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol ymarferol a syml i’n cleientiaid, beth bynnag fo’u gofynion rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein cleientiaid yn fusnesau masnachol, mentrau nid-er-elw, asiantaethau llywodraeth ac unigolion.

Cyfleoedd a gynigir

Rydym yn cynnig prentisiaethau amrywiol, o Weinyddu Busnes, paragyfreithiol i Brentisiaethau Cyfreithwyr

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Swyddi gweinyddol cyfreithiol amrywiol. Rolau paragyfreithiol yn cefnogi tîm o gyfreithwyr sydd wedi cymhwyso.

Buddion sydd ar gael

Bydd gennych chi raglen ddatblygu bersonol lawn, gyda chefnogaeth gan ein tîm Dysgu a Datblygu mewnol. Bydd cyfle i chi symud ymlaen i gyrsiau a rolau eraill o fewn y cwmni.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a phenderfynol i ddechrau gyrfa ym maes y gyfraith.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Uwch na’r isafswm cenedlaethol ar gyfer prentisiaethau. Mae cyflogau’n cychwyn ar £11,500 ar gyfer ein prentisiaethau Gweinyddu Busnes.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Rydym yn recriwtio yn barhaus, yn unol ag anghenion y busnes.

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

Bilingual

Lleoliad

One Central Square, Cardif
Central Square, Cardif

CF10 1FS

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .