Skip to main content

Foxy’s Deli

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Penarth
Sector:
Bwyd a Diod

Trosolwg o'r cwmni

Caffi, Delicatessen ac arlwyo Cegin

Cyfleoedd a gynigir

Rydym yn cynnig prentisiaeth ar gyfer y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.

 

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Bydd prentisiaid yn cymryd rhan mewn tasgau fel paratoi bwyd, llenwi ffurflenni iechyd a hylendid, helpu i greu bwydlenni, coginio – unrhyw dasg sy’n gysylltiedig â chegin brysur.

Buddion sydd ar gael

Y manteision o weithio i ni yw:

 

Busnes teuluol bach, felly byddai unrhyw syniadau newydd yn gallu cael eu rhoi ar waith.

Cael cyfran o unrhyw gildwrn a ddaw drwy’r caffi

Cefnogaeth un i un gan ddau gogydd

Tîm da a chyfeillgar

Cyfle i gynyddu a datblygu yn gyflym

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn chwilio am staff brwdfrydig sydd â’r gallu i ddysgu’n gyflym ac sy’n croesawu tasgau newydd.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Rydym yn talu’r isafswm cyflog i ddechrau, gan adolygu hynny ar ôl 3 mis.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Rydym yn recriwtio gydol y flwyddyn.

Lleoliad

7 Royal Buildings
Victoria Road

CF64 3ED

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .