Skip to main content

Qioptiq

QIOPTIQ
Nifer yr cyflogeion:
500+
Lleoliadau:
Llanelwy, Bodelwyddan
Sector:
Peirianneg

Trosolwg o'r cwmni

Rydym yn arbenigo mewn dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu modiwlau, systemau a chynhyrchion optronig ar gyfer cymwysiadau amddiffyn ac awyrofod. Mae gennym swyddi allweddol ym maes gwerthu, marchnata, ymchwil a datblygu, peirianneg, gweithgynhyrchu, araenu a chymorth i gwsmeriaid.

Cyfleoedd a gynigir

Rydym yn cynnig prentisiaethau crefft, prentisiaethau technegol a phrentisiaethau gradd.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Bydd prentisiaid yn treulio amser yn yr Adrannau Optegol, Peiriannu, Cydosod a Pheirianneg amrywiol yn hyfforddi gyda chrefftwyr a pheirianwyr medrus iawn gan eu galluogi i gyflawni eu cynllun hyfforddi mewnol yn llwyddiannus. Ar ôl cwblhau prentisiaeth dechnegol byddant yn symud ymlaen i'r Rhaglen Uwch (Gradd)

Buddion sydd ar gael

Dysgu ac ennill cyflog. Bydd gennych hawl i 25 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â staff medrus a phrofiadol iawn. Mae gennym Dîm Prentisiaethau pwrpasol sy'n cefnogi prentisiaid trwy gydol y rhaglen.

 

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Blwyddyn 1 - £13,740, blwyddyn 2 - £16,488, blwyddyn 3 - £19,236, blwyddyn 4 - £20,610

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Chwefror – Mai

Anabledd Cynhwysol

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

Na

Lleoliad

Glascoed Road


LL17 0LL

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .