Skip to main content

BBC

Nifer yr cyflogeion:
500+
Lleoliadau:
Lleoliadau amrywiol ledled y DU
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Y BBC yw darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf blaenllaw’r byd. Rydym yn creu rhaglenni unigryw o safon gyda’r gorau yn y byd sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu miliynau o bobl yn y DU ac ym mhedwar ban byd.

Cyfleoedd a gynigir

Mae 28 o brentisiaethau a chynlluniau hyfforddi ar gael, yn amrywio o 18 mis i 4 blynedd, ac yn darparu hyfforddiant a chymwysterau safon aur. Mae gennym gyfleoedd ym meysydd newyddiaduraeth, cynhyrchu, technoleg neu fusnes.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Newyddiadurwr, Peiriannydd Meddalwedd, Dadansoddwr Data, Rheolwr Cynhyrchu, Cynorthwyydd Camera, Gweithredwr Technegol, Gweithredwr Darlledu

Buddion sydd ar gael

Hyfforddiant safon aur yn y diwydiant gan arbenigwyr ac uwch staff y BBC. Mentor i’ch cefnogi a’ch tywys yn ystod eich hyfforddiant. Cynllun pensiwn â buddion diffiniedig a gostyngiad ar wasanaethau deintyddol, gofal iechyd a champfa a llawer mwy. Mynediad i rwydweithiau staff y BBC.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Mae hyn yn amrywio o gynllun i gynllun. Edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

£14,400 - £21,216 yn dibynnu ar y cynllun.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Adegau amrywiol gydol y flwyddyn.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

Ydyn, edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Lleoliad

Langham Street


W1A 1AA

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .