Skip to main content

Advanced Fire Protection Ltd

Advanced Fire Protection Ltd
Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Rydym wedi’n lleoli yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest ac rydym yn gwasanaethu de Cymru gyfan.
Sector:
Gwasanaethau Diogelu

Trosolwg o'r cwmni

Rydym yn un o’r cwmnïau diogelwch tân annibynnol mwyaf yng Nghymru ac rydym yn cynnig gwasanaeth cenedlaethol. Defnyddir ein gwasanaethau gan swyddogion y llywodraeth, awdurdodau iechyd, rheolwyr eiddo, tai amlfeddiannaeth, hamdden a manwerthu

Cyfleoedd a gynigir

Peirianwyr larymau a seiri coed.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Cynorthwyo peirianwyr yn eu swyddogaethau dyddiol (boed hynny’n waith coed/larymau tân).

Buddion sydd ar gael

Bydd unrhyw brentis yn gweithio ochr yn ochr â’n gweithlu medrus a chyfeillgar presennol. Bydd yn gweithio ar amrywiaeth eang o dasgau ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi amrywiaeth o brofiadau a sgiliau newydd.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Mae’n rhaid i unrhyw ymgeisydd fod ag agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu, a bod yn onest ac yn ddibynadwy. Bydd disgwyl i ymgeiswyr gymysgu’n dda ag aelodau eraill o’r staff hefyd, a derbyn cyfarwyddyd oddi wrth oruchwylydd/ rheolwr.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Telir £4.15 yr awr (isafswm cyflog) i brentisiaid am gyfnod cychwynnol o dri i chwe mis. Adolygir y cyflog ar ôl y cyfnod prawf hwn.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Pan fyddwn yn teimlo ei bod yn bryd cynyddu’r gyflogaeth yn y busnes.

Anabledd Cynhwysol

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Unit TP3
Treforest Trade Park

CF37 5UR

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .