RB Mechanical Seals Limited
- Nifer yr cyflogeion:
- 1-10
- Lleoliadau:
- Llannerch Banna
- Sector:
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
Trosolwg o'r cwmni
Ers 1979, rydym wedi bod yn cynllunio, gweithgynhyrchu ac adnewyddu seliau mecanyddol ar gyfer cyfarpar sy’n troi, gan gynnwys pympiau, cymysgyddion a chynhyrfwyr. Yn aml, mae ein cleientiaid am adnewyddu seliau yn ôl i’w manyleb OEM wreiddiol.Cyfleoedd a gynigir
Rhaglennydd Peiriannydd/ Gosodwr/ Gweithredwr
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Bydd y rôl yn cynnwys defnyddio peiriannau melino a throi â llaw a rhai CNC, rhaglennu cydrannau dylunio newydd o luniadau peirianneg a golygu rhaglenni presennol i gynhyrchu rhannau gorffenedig. Mae lefelau uchel o sylw i fanylder yn hanfodol, ynghyd â’r gallu i ddefnyddio cyfarpar mesur â llaw a gwirio ei waith ei hun.
Buddion sydd ar gael
Bydd bod yn rhan o dîm bach yn golygu y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau lefel uchel o gefnogaeth a sylw i fanylder er mwyn cyrraedd y lefel ofynnol o gymhwysedd.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Yn y lle cyntaf ymgeisydd brwdfrydig sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa ym maes peirianneg, naill ai yn seiliedig ar ei hobïau a diddordebau personol neu ar ôl astudio ar gwrs/am gymhwyster peirianneg yn yr ysgol neu goleg. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod gan y person yr agwedd iawn tuag at weithio’n galed a disgyblaeth er mwyn llwyddo.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
Rhwng £4.30 a £5.00 yr awr, yn dibynnu ar gymwysterau a chefndir yr ymgeisydd.
Prosesau ac amserlenni recriwtio
Yn ôl y gofyn
Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog
SaesnegLleoliad
Unit 28, Penley Industrial EstateLL13 0LQ
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .