The Green Giraffe Nursery
- Nifer yr cyflogeion:
- 51-250
- Lleoliadau:
- Caerdydd
- Sector:
- Gofal Plant
Trosolwg o'r cwmni
Rydym yn feithrinfa ddydd Gymraeg a Saesneg o safon uchel yn arddull Montessori, sy’n gwbl organig ac eco-gyfeillgar, sy'n darparu gofal plant i blant rhwng 6 wythnos a 5 oed, gan ddarparu gofal annwyl a chariadus.Cyfleoedd a gynigir
Lefel 2, 3, 4 a 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Cyfrannu at safon uchel o ofal corfforol, emosiynol, cymdeithasol a deallusol i blant yn y feithrinfa. Gweithio mewn tîm i weithredu'r drefn ddyddiol yn y brif ystafell. Cysylltu â rhieni a theuluoedd. Paratoi a chwblhau gweithgareddau i weddu i gam datblygiad y plentyn. Sicrhau bod amseroedd bwyd yn amser o rannu cymdeithasol dymunol. Ymolchi a newid plant yn ôl yr angen. Sicrhau bod plentyn sâl yn cael ei gadw'n ddigynnwrf ac yn gynnes. Rhoi sylw i anghenion gofal sylfaenol plant.
Buddion sydd ar gael
Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i’n staff, gan eu cynorthwyo i ddysgu a thyfu drwy roi'r hyfforddiant a'r cyngor diweddaraf iddynt a'r cyfle i hyfforddi yn arddull addysgu Montessori. Gall dysgwyr ddatblygu i fod yn weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar rhagorol a symud ymlaen yn y feithrinfa.
Prosesau ac amserlenni recriwtio
Rydym yn recriwtio prentisiaid yn aml.
Lleoliad
2 Cathedral RoadPontcanna
CF119LJ
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .