Johns Gardening Services
- Nifer yr cyflogeion:
-
1-10
- Lleoliadau:
-
Llandeilo and all over Carmarthenshire
- Sector:
-
Gwasanaethau Eiddo
Trosolwg o'r cwmni
Cyfleoedd a gynigir
Rydym yn chwilio am ddau berson i hyfforddi a bod yn rhan o gwmni sy'n tyfu'n gyflym. Edrychwn ni ar ôl cleientiaid bach a mawr ledled Sir Gaerfyrddin o dafarndai i fwytai i Gymdeithas Tai Bro Myrddin
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Torri gwair / torri gwrychoedd / tirlunio / cynnal a chadw cartrefi / tynnu mwsogl / gosod lawntiau newydd / gosod tyweirch / gosod dedciau / patios. Mae pob wythnos yn hollol wahanol. Rhaid i chi fod yn barod i hyfforddi ac yn barod i ddysgu.
Buddion sydd ar gael
Rydym yn darparu gwisg lawn ac yn eich hyfforddi i ddefnyddio'r holl beiriannau diweddaraf. Byddwn yn eich anfon ar yr holl gyrsiau sydd ar gael ac rydym yn dyrchafu pobl o fewn y cwmni bob amser. Rydym yn dîm hapus y byddech chi wrth eich bodd yn gweithio iddo.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Parodrwydd i hyfforddi a dysgu. Rhywun i roi diogelwch yn gyntaf. Gonestrwydd ac uniondeb. Yr awydd i lwyddo a goresgyn rhwystrau. Yr awydd i weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd a’r uchelgais i arwain y tîm a meddwl mewn ffordd greadigol.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
Mae tâl yn dibynnu ar oedran ac oriau, ond rydym yn chwilio am o leiaf 40 awr yr wythnos. Mae goramser a sifftiau eraill ar gael.
Anabledd Cynhwysol
Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog
Lleoliad
VenrayCwmifor
SA19 7AW
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .