Skip to main content

Howdens Joinery Ltd

Nifer yr cyflogeion:
500+
Lleoliadau:
Cenedlaethol
Sector:
Busnes a Rheoli

Trosolwg o'r cwmni

Mae Howdens yn cyflenwi ceginau, deunyddiau saernïaeth ac ategolion.

Cyfleoedd a gynigir

 Rydym yn cynnig prentis Gwerthwr Cownter Masnach ar hyn o bryd

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ac ateb ymholiadau mewn modd cwrtais, proffesiynol a gwybodus, rhagori ar dargedau unigol, meithrin perthynas waith gadarn â chwsmeriaid hen a newydd, gwerthu/uwchwerthu’r casgliad llawn o gynhyrchion, gwneud gwaith dilynol ar ymholiadau, prosesu gwerthiannau, helpu yn y warws y depo.

Buddion sydd ar gael

Manteision gweithio i’n cwmni yw ein bod ni’n darparu cyrsiau i’ch helpu i ffynnu o fewn y busnes – mae cyfleoedd da yn codi o hyd. Er mai dim ond am flwyddyn mae’r brentisiaeth hon, efallai y bydd cyfle i barhau gyda ni.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Profiad o weithio ym maes masnwerthu neu wasanaeth cwsmeriaid tebyg, amldasgio llwythi gwaith gwahanol, gallu cyfathrebu’n gwrtais a chyfeillgar, ac esbonio cynhyrchion deunyddiau saernïaeth Howdens yn glir i’r cyhoedd a chwsmeriaid masnach. Gwaith tîm effeithiol a sgiliau datrys problemau. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond ddim yn angenrheidiol.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

£10,500 y flwyddyn

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

Dwyieithog

Lleoliad

Unit 11
Pentood Industrial Estate

SA43 3AG

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .