Skip to main content

Stokes Case Management

Stokes Logo
Nifer yr cyflogeion:
21-50
Lleoliadau:
Cenedlaethol
Sector:
Gofal Iechyd

Trosolwg o'r cwmni

Rydym yn dîm angerddol a chydweithredol sy’n cymryd yr agwedd y gallwn fynd i’r afael ag unrhyw beth ym maes rheoli achosion ar gyfer unigolion anabl a bregus yn y DU

Cyfleoedd a gynigir

Prentis Cynhorthwyydd Gweinyddu Adnoddau Dynol

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Tasgau gweinyddu ac Adnoddau Dynol fel trafod y post sy’n dod i mewn ac yn mynd allan, prosesu ceisiadau am eirda, sicrhau bod gwybodaeth am gyflogres gweithwyr newydd yn cael ei rhannu/prosesu; archebu hyfforddiant wyneb yn wyneb, gweinyddu swyddfa, cynnal meistrdaflenni gweithwyr ar gyfer timau cymorth, dilysu dogfennau adnabod ar gyfer y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a’r hawl i weithio yn y DU, ymhlith tasgau eraill.

Buddion sydd ar gael

Tîm cymorth gwych. Cael eich mentora gan brentis arall yn y cwmni. Rheoli cadarn gan dîm eang. Amgylchedd gwaith agored a chynhwysol.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Cyflog prentisiaeth hyd yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer y grŵp oedran, yn dibynnu ar y person

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Ydyn ni’n cynnig cyfleoedd i brentisiaid drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog

English

Lleoliad

Stokes Case Management, The Maltings
E Tyndall Street

CF24 5EA

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .