Mae GOV.WALES yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Gall gwasanaethau llywodraeth osod cwcis ychwanegol, ac os felly, bydd ganddynt bolisi a baner cwcis ar wahân. Gallwch newid eich gosodiadau cwci ar unrhyw bryd.
Rydym yn fusnes teuluol, gyda chefndir mewn ffermio, ceffylau a gweithgareddau cefn gwald ac rydym yn ymfalchïo mewn ceisio cynnig ystod ragorol o ddillad ac ategolion gwlad a thref o ansawdd gyda lefelau ardderchog o wasanaeth a sylw i fanylder.
Adran fwtsiera’r cwmni manwerthu Bwydydd Castell Howell yw Celtica Foods. Mae Celtica yn gweithio o safle bwtsiera o’r radd flaenaf, gwerth £5 miliwn o bunnoedd, yn Cross Hands, Sir Gâr, ac yn cyflenwi cig i fwytai, tafarnau, y sectorau arlwyo a lletygarwch.
Rydym yn siop fferm a chegin yng nghefn gwlad hynod de Cymru, wedi’i lleoli 3 milltir y tu allan i dref Brynbuga. Mae gennym gaffi bach ar y safle sy’n cynnig prydau a theisennau wedi’u gwneud â llaw.
Ceir jamiau, picls a siytni sydd wedi’u gwneud â llaw yn y siop fferm.
Rydym yn cynnig gwasanaeth arlwyo ar gyfer digwyddiadau bach, priodasau, partïon cinio preifat mewn tai llety gyda bwydlenni pwrpasol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid. Ein nod yw bod mor gyfeillgar i’r amgylchedd â phosibl. Rydym yn cynnig gwasanaeth cludo i gartrefi.
Busnes sy’n cyflogi ychydig llai na 80 o weithwyr yn ardal Arfon, mewn pum lleoliad. Un clwb nos, un bwyty, un bwyty bar, a dau fwyty bar mewn gwestai.
Mae gennym gynlluniau i ychwanegu bwyty arall yn y tri mis nesaf.
De-orllewin Cymru: Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Cheredigion.
Cynllun Prentisiaethau Rhanbarthol a Rennir, sydd wedi Ennill Gwobrau Niferus, sy’n cyflogi dros 120 o brentisiaid ar hyn o bryd ac sydd wedi cyflogi 650+ o brentisiaid a rennir hyd yma. Mae’n Gynllun Prentisiaethau a Rennir a lansiwyd gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yn 2013, ac ar hyn o bryd hwn yw’r Cynllun Prentisiaethau a Rennir mwyaf yn y DU.
Recriwtio prentisiaid yn: Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu
Cwmni gwasanaethau proffesiynol blaenllaw yw Deloitte sydd wedi bod â chanolfan yng Nghaerdydd ers dros 100 mlynedd. Mae mwyafrif ein pobl yng Nghymru yn gweithio yn ein Canolfan Ddarparu yng Nghaerdydd, sef canolfan strategol i’n busnes sy’n darparu gwasanaethau cymorth arbenigol a gweinyddol ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa eithriadol
Canolfan arddio a phlanhigfa deuluol ydym, sy’n cynnwys drysfa, 11 gardd arddangos, Siop Roddion a Chanolfan Arddio a Chaffi prysur iawn, sy’n gweini bwyd o safon gan ddefnyddio cynhwysion a brynir mewn modd cyfrifol, defnyddiwn gig anifeiliaid rhyddion a gynhyrchir gan gyflenwyr lleol lle bo’n bosibl.