Skip to main content

Celtic Manor Resort

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Mae’r Celtic Manor Resort yn gyfuniad o westy cynadledda, golff, sba a hamdden ar gyrion Casnewydd. Mae’r Celtic Collection yn cynnwys pedwar gwesty, tafarn wledig, bythynnod moethus, sba, bwytai, cyrsiau golff pencampwriaeth, cyrsiau rhaffau, golff antur, saethu gwn laser, saethyddiaeth a chanolfan gynadledda amlbwrpas.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae’r Celtic Manor yn cynnig dau fath o brentisiaethau – Gwesty a Lletygarwch, a Choginio. Mae’r naill a’r llall yn dechrau ar Lefel 2 gyda chyfleoedd i ddatblygu i Lefel 3 ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus.

Pryd mae Celtic Manor fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae’r Celtic Manor yn recriwtio prentisiaid gwesty a lletygarwch yn yr haf, a phrentisiaid coginio fel mae cyfleoedd yn codi.

Beth mae Celtic Manor yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Mae cymwysterau’n llai pwysig na gallu, ac mae’r cwmni’n chwilio am ymgeiswyr sy’n gweithio’n galed ac sydd â diddordeb gwirioneddol yn y diwydiant, agwedd gadarnhaol ac sy’n barod i roi cynnig arni.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Mae prentisiaid yn dysgu’r holl sgiliau fyddai eu hangen arnyn nhw fel gweithwyr. Bydd prentisiaid gwesty a lletygarwch yn cael cyfle i dreulio amser ym mhob adran tra bydd prentisiaid coginio yn dysgu wrth weithio ym mwyty staff Junction 24 y Celtic Manor.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda’r Celtic Manor?

Mae prentisiaid y Celtic Manor yn derbyn yr un buddion â staff parhaol. Mae’r rhain yn cynnwys: ystafelloedd a bwyd am bris gostyngol, cynllun beicio i’r gwaith, meithrinfa ar y safle, pensiwn, yswiriant bywyd a 28 diwrnod o wyliau, gan gynnwys gwyliau’r banc. Unwaith y byddan nhw wedi cwblhau’r brentisiaeth, mae’r Celtic Manor yn annog prentisiaid i wneud cais am unrhyw rolau parhaol sydd ar gael ac yn cynnig rhaglenni hyfforddiant pellach i hybu eu gyrfaoedd.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Coldra Wood
Chepstow Rd

NP18 1HQ

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .