Skip to main content

CYFLE BUILDING SKILLS LIMITED

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
De-orllewin Cymru: Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Cheredigion.
Sector:
Gwasanaethau Adeiladu

Trosolwg o'r cwmni

Cynllun Prentisiaethau Rhanbarthol a Rennir, sydd wedi Ennill Gwobrau Niferus, sy’n cyflogi dros 120 o brentisiaid ar hyn o bryd ac sydd wedi cyflogi 650+ o brentisiaid a rennir hyd yma. Mae’n Gynllun Prentisiaethau a Rennir a lansiwyd gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yn 2013, ac ar hyn o bryd hwn yw’r Cynllun Prentisiaethau a Rennir mwyaf yn y DU.

Cyfleoedd a gynigir

Gosod brics, Plastro, Gwaith Saer, Trydanol, Plymio, Peintio ac Addurno, Cynnal a Chadw/Amlsgilio, Prentisiaethau Technegol ac Uwch

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Yn sylfaenol, caiff dysgwyr eu cysylltu â phrosiectau, ond bydd lleoliadau gwaith yn darparu cyfleoedd hyfforddi strwythuredig perthnasol yn unol ag amserlen y cytunwyd arni o fewn eu fframwaith/crefft, gan sicrhau lefelau priodol o fentora a chymorth drwy gydol taith y dysgwyr

Buddion sydd ar gael

Ysgogiad allweddol yw creu cyflawniadau ysbrydoledig gan ragweld y bydd Prentis a Rennir yn cwblhau profiad gwaith gyda’r ystod lawn o gwmnïau a mathau o brosiectau sy’n cynrychioli’r llif gwaith yn y rhanbarth, yn hytrach nag un cwmni yn unig drwy gydol cyfnod eu Prentisiaeth.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Prydlondeb, Dibynadwyedd, Sgiliau Cyfathrebu Rhagorol a diddordeb gwirioneddol yn y swydd, ynghyd â pharodrwydd i ddysgu.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Caiff prentisiaid eu talu’r gyfradd isafswm cyflog i brentisiaid, o leiaf.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Ar ddechrau Blwyddyn y Coleg fel arfer – mis Medi, ond gallwn recriwtio drwy gydol y flwyddyn

Lleoliad

Campws Rhydaman
Ffordd y Dyffryn, Rhydaman

SA18 3TA

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .