Skip to main content

Deloitte

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Caerdydd
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Cwmni gwasanaethau proffesiynol blaenllaw yw Deloitte sydd wedi bod â chanolfan yng Nghaerdydd ers dros 100 mlynedd. Mae mwyafrif ein pobl yng Nghymru yn gweithio yn ein Canolfan Ddarparu yng Nghaerdydd, sef canolfan strategol i’n busnes sy’n darparu gwasanaethau cymorth arbenigol a gweinyddol ac sy’n cynnig cyfleoedd gyrfa eithriadol

Cyfleoedd a gynigir

Rydym yn cynnig dwy raglen brentisiaeth: Gweinyddu Busnes (lefel mynediad) sy’n arwain at Ddiploma City & Guilds L3 mewn Gweinyddu Busnes a BrightStart (lefel uwch) fel dewis arall yn lle’r brifysgol.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Mae ein prentisiaid yn gweithio ar brosiectau byw o’r cychwyn cyntaf.

Mae prentisiaid gweinyddu busnes yn ymuno â’n timau yn y Ganolfan Ddarparu yng Nghaerdydd, sy’n gweithio ar draws y busnes ac yn darparu gwasanaethau cymorth megis rheoli ansawdd a risg, troseddau ariannol, cydymffurfio, a gweinyddu, yn ogystal â nifer o weithrediadau arbenigol i gefnogi ein pobl sy’n wynebu cleientiaid ledled y DU.

Buddion sydd ar gael

Rydym yn cynnig yr hyfforddiant, yr astudiaeth a’r cymorth sydd eu hangen ar brentisiaid i fod yn llwyddiannus. Mae ein dull cyfunol yn cynnwys e-ddysgu, astudio yn yr ystafell ddosbarth, hyfforddiant unigol, cymorth dyddiol ac, wrth i bobl symud ymlaen, hyfforddiant technegol a sgiliau i’w helpu i ddatblygu ymhellach.

Mae amser astudio wedi’i gynnwys yn wythnos waith ein prentisiaid Gweinyddu busnes, sy’n eu galluogi i fynychu Coleg Caerdydd a’r Fro yn ystod oriau gwaith arferol a chael y fframwaith cymorth i gefnogi eu llwyddiant. Mae gan bob prentis fentor dynodedig yn y gwaith, cymorth gan staff y coleg ar gyfer yr ochr academaidd, y gallu i ddefnyddio cyfleusterau’r coleg a chyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau allanol. Maent hefyd yn derbyn cerdyn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr oddi wrth y coleg.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n canolbwyntio ar ansawdd a manylion, yn dangos menter, yn gallu gweithio mewn timau neu’n annibynnol, ac sydd â gallu gwybyddol da. 

Gofynion gweinyddu busnes: 5 TGAU gan gynnwys o leiaf gradd 4 mewn Saesneg iaith a mathemateg.

BrightStart: o leiaf 104 o bwyntiau UCAS, TGAU Saesneg iaith gradd 4; TGAU mathemateg gradd 6.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig, sy’n golygu bod ein holl bobl, gan gynnwys prentisiaid, yn cael eu talu uwchlaw cyflogau meincnod, sy’n seiliedig ar yr un cyfraddau fesul awr â’r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Gweinyddu busnes - derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau naill ai ym mis Mawrth neu ym mis Medi

BrightStart - derbynnir ceisiadau o fis Tachwedd tan ganol mis Mawrth, ac mae ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ym mis Medi.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

5 Sgwâr Callaghan


CF10 5BT

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .