Skip to main content

Derwen Garden Centre Ltd

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Derwen Garden Centre, Guilsfield, SY21 9PH
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Canolfan arddio a phlanhigfa deuluol ydym, sy’n cynnwys drysfa, 11 gardd arddangos, Siop Roddion a Chanolfan Arddio a Chaffi prysur iawn, sy’n gweini bwyd o safon gan ddefnyddio cynhwysion a brynir mewn modd cyfrifol, defnyddiwn gig anifeiliaid rhyddion a gynhyrchir gan gyflenwyr lleol lle bo’n bosibl.

Cyfleoedd a gynigir

Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynhyrchiant Bwyd a Choginio.

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Paratoi bwyd, byrbrydau, garnisiau, diogelwch bwyd, labeli, archwiliadau tymheredd, glanhau dwfn, pob agwedd ar waith cegin.

Buddion sydd ar gael

Hyfforddiant gwych ‘yn y swydd’.

Gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol i fod yn aelod medrus o dîm y gegin.

Profiad o weithio mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a chyfle i gael profiad gwerthfawr mewn cegin brysur.

Swydd barhaol i’r ymgeisydd iawn.

 

 

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Brwdfrydedd, cymhelliant, ymroddiad, diddordeb, neu angerdd (yn yr achos hwn) am ‘fwyd’, parodrwydd i ddysgu gan ein Cogydd a’n tîm coginio, proffesiynol, cyfeillgar, pwyllog dan bwysau, rhywun sydd am greu gyrfa yn y maes hwn. Diddordeb mewn lleihau gwastraff ac effeithiau negyddol ar yr amgylchedd.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

£6.45 yr awr i bobl hyd at 18 oed, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i bobl dros 18 oed, y Cyflog Byw Cenedlaethol i bobl 25+ oed.

Lleoliad

Guilsfield


SY219PH

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .