Celtic Country Wines Limited
- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Gorllewin Cymru
- Sector:
- Bwyd a Diod
Trosolwg o'r cwmni
Fel cwmni, rydym yn cynhyrchu gwinoedd ffrwythau, gwirodydd a chyffeithiau. Mae bistro a chanolfan arddio ar y safle hefyd.Cyfleoedd a gynigir
Byddwn yn cynnig prentisiaethau Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, Gweinyddu Busnes a Lletygarwch
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Fel cwmni, rydym yn ceisio cydweithio ac yn helpu gyda phob tasg sydd angen ei gwneud, ond byddai disgwyl i brentis weithio yn y meysydd sy’n cyfateb orau i’r brentisiaeth.
Gweinyddu Busnes – ateb galwadau, anfonebu, ffeilio, defnyddio xero, cofnodi’r archebion sy’n cael eu hanfon, helpu gyda’r polisïau iechyd a diogelwch yn ogystal â delio gyda chwsmeriaid.
Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod – helpu i weithgynhyrchu’r gwinoedd, y gwirodydd a’r cyffeithiau, helpu yn y gegin yn ogystal ag ymdrin â pholisïau iechyd a diogelwch a HSAP.
Lletygarwch – helpu i goginio ar gyfer y bistro. Cyflwyno syniadau newydd am brydau bwyd, gweithgynhyrchu gwinoedd, gwirodydd a chyffeithiau yn ogystal ag ymdrin â pholisïau iechyd a diogelwch a HSAP.
Buddion sydd ar gael
Rydym yn helpu ein gilydd felly ni fyddwn yn gofyn ichi wneud dim na fyddwn ni yn ei wneud. Byddwch yn gweithio fel tîm. Mae pob diwrnod yn wahanol.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Rydym yn chwilio am rywun fydd yn cydweithio’n dda gyda phob un ohonom, rhywun sy’n awyddus i ddysgu ac a fydd yn dod â’i syniadau a’i brofiad ei hun.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
Telir yn unol â’r gofynion sylfaenol a chynigiwn 25c/awr yn ychwanegol os byddwch yn cwblhau’r holl oriau bob mis heb fod yn absennol o gwbl.
Lleoliad
The WineryHenallan
SA44 5TD
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .