Skip to main content

Celtica Foods

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Adran fwtsiera’r cwmni manwerthu Bwydydd Castell Howell yw Celtica Foods. Mae Celtica yn gweithio o safle bwtsiera o’r radd flaenaf, gwerth £5 miliwn o bunnoedd, yn Cross Hands, Sir Gâr, ac yn cyflenwi cig i fwytai, tafarnau, y sectorau arlwyo a lletygarwch.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae prentisiaethau’n amrywio o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch yn Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod, Sgiliau’r Diwydiant Bwyd a Gweithgynhyrchu Bwyd. Hefyd, mae’r cwmni’n gobeithio cyflwyno llwybrau prentisiaethau eraill yn y dyfodol agos.

Pryd mae Celtica Foods fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae rhiant gwmni Celtica Foods, Bwydydd Castell Howell, yn hyrwyddo prentisiaethau ar ei sianeli Twitter a Facebook, felly cadwch lygad am y manylion diweddaraf. Mae Celtica hefyd yn ymweld â ffeiriau swyddi lleol er mwyn hybu cyfleoedd gyrfa.

Beth mae Celtica Foods yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Mae’r union ofynion yn amrywio o rôl i rôl, ond dylai ymgeiswyr fod ag awch i weithio a diddordeb mewn rheoli eu datblygiad gyrfa eu hunain.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Bydd prentisiaid Celtica Foods yn dysgu pob math o sgiliau gwahanol, o gynhyrchu cig a thynnu esgyrn i sgiliau torri medrus. Wrth i brentisiaid gamu o un lefel i’r nesaf,  bydd eu tasgau bob dydd yn newid yn ôl yr angen.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda Celtica Foods?

Llwybr gyrfa clir a phenodol o fewn strwythur fframwaith prentisiaethau. Mae Celtica yn chwilio am ymgeiswyr i’w datblygu’n weithwyr llawn amser y dyfodol.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Heol Ty Newydd
Cross Hands Food Park

SA14 6SX

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .