Skip to main content

Craft Renaissance Farm Shop and Kitchen

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sir Fynwy
Sector:
Arlwyo a Lletygarwch

Trosolwg o'r cwmni

Rydym yn siop fferm a chegin yng nghefn gwlad hynod de Cymru, wedi’i lleoli 3 milltir y tu allan i dref Brynbuga. Mae gennym gaffi bach ar y safle sy’n cynnig prydau a theisennau wedi’u gwneud â llaw.
Ceir jamiau, picls a siytni sydd wedi’u gwneud â llaw yn y siop fferm.
Rydym yn cynnig gwasanaeth arlwyo ar gyfer digwyddiadau bach, priodasau, partïon cinio preifat mewn tai llety gyda bwydlenni pwrpasol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid. Ein nod yw bod mor gyfeillgar i’r amgylchedd â phosibl. Rydym yn cynnig gwasanaeth cludo i gartrefi.

Cyfleoedd a gynigir

Cynorthwyydd cegin

Cynorthwyydd arlwyo

Cynorthwyydd manwerthu

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Paratoi bwyd yn gyffredinol, coginio sylfaenol, golchi llestri, gwaith glanhau cyffredinol, cymryd archebion, cylchdroi stoc, rhannu’n ddognau a labelu bwydydd sydd wedi eu coginio yn barod i’w storio. Ymateb i ymholiadau cwsmeriaid, cymryd taliadau, ateb galwadau ffôn, sicrhau bod oergelloedd a rhewgelloedd arddangos yn llawn ac yn daclus. Ail-lenwi silffoedd gan ystyried cylchdroi’r stoc. Plygu napcynau, gosod byrddau i safon - cinio, bwffe ac ati. Storio’r holl bethau bwrdd glân yn briodol - llestri, cytleri, hambyrddau ac offer ar ôl pob sifft. Sicrhau y cynhelir gofal cwsmeriaid o safon uchel.

Buddion sydd ar gael

Ennill cyflog wrth ddysgu

Amgylchedd cyfeillgar

Cyfle i aros mewn cyflogaeth ran-amser/amser llawn ar ôl cwblhau’r brentisiaeth

Ciniawau neu luniaeth am ddim neu am bris gostyngedig

Gostyngiad o 10% yn y caffi a’r siop fferm

Maes parcio am ddim

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Prydlondeb

Dibynadwyedd

Y gallu i weithio ar ei liwt ei hun

Rhywun sy’n cael ei sbarduno gan ganlyniadau

Sgiliau datrys problemau

Balchder yn ei waith a moeseg gwaith da

Sgiliau cwsmeriaid gwych

Pobl sy’n angerddol ynglŷn â bwyd a choginio

Agwedd ragweithiol a hyder yn ei allu i gyflawni tasgau

Parodrwydd i ddysgu ac i addasu i newidiadau

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r gyfradd isafswm cyflog i brentisiaid

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Yn ystod yr haf

Lleoliad

Craft Renaissance
Cemais Comawndwr, Brynbuga

NP15 1JU

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .