Mae GOV.WALES yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Gall gwasanaethau llywodraeth osod cwcis ychwanegol, ac os felly, bydd ganddynt bolisi a baner cwcis ar wahân. Gallwch newid eich gosodiadau cwci ar unrhyw bryd.
Ers 1979, rydym wedi bod yn cynllunio, gweithgynhyrchu ac adnewyddu seliau mecanyddol ar gyfer cyfarpar sy’n troi, gan gynnwys pympiau, cymysgyddion a chynhyrfwyr. Yn aml, mae ein cleientiaid am adnewyddu seliau yn ôl i’w manyleb OEM wreiddiol.
Sefydlwyd Recruitment Solutions Workforce Ltd ym 1999. Mae’n uchel ei barch yn y gwaith o ddarparu gofynion staffio dros dro a pharhaol mewn nifer o sectorau, gyda changhennau’n lleol.
Mae gennym fantais arbenigol o fedru darparu gwybodaeth farchnad arbenigol gan ymgynghorwyr profiadol.
Llangefni, Biwmares, Porthaethwy, Prestatyn a Chaernarfon
Mae Red Boat wedi bod yn masnachu ers 12 mlynedd. Yn ddiweddar mae wedi buddsoddi llawer mewn uned gynhyrchu newydd gyda’r cyfarpar diweddaraf. Mae’n cynhyrchu gelato a sorbet i’w gwerthu drwy ei siopau ei hun ac mae’n dechrau gwerthu mwy a mwy i fusnesau eraill hefyd.
Mae Jaguar Land Rover yn arweinydd technoleg yn y diwydiant modurol. Gyda threftadaeth Brydeinig unigryw ac ôl-troed byd-eang, gwerthodd y busnes 557,706 o gerbydau mewn 127 o wledydd yn 2019.
Recriwtio prentisiaid yn: Moduro, Trafnidiaeth a Logisteg
Mae prentisiaethau ar gael yn ein rhwydwaith manwerthu ledled y DU
Gyda brandiau fel Volkswagen, SEAT, ŠKODA, Volkswagen Commercial Vehicles ac Audi a TPS a Volkswagen Paint and Body, mae Volkswagen Group yn gwmni byd-eang sydd wedi ymrwymo i berfformiad uchel.
Recriwtio prentisiaid yn: Moduro, Trafnidiaeth a Logisteg
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am wasanaethau ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd, casglu sbwriel ac ailgylchu, tai a cheisiadau cynllunio.
Mae gan Gyngor Cymuned Rhosllannerchrugog Fynwent fawr ac mae wedi cael naw maes chwarae yn y gymuned yn ddiweddar. Mae’n cynnal y toiledau cyhoeddus, yn cadw parciau a mannau gwyrdd yn daclus, yn garddio a chyflawni dyletswyddau eraill.