Skip to main content

Redrow Homes

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Cwmni adeiladu tai Prydain gyfan yw Redrow Homes, gyda’i bencadlys yn Sir y Fflint. Mae’n adeiladu tai ar safleoedd ledled Cymru a gweddill y DU.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae Redrow yn cynnig prentisiaethau crefft ymarferol, ac mae prentisiaid yn dysgu sgiliau ymarferol eu crefft ddewisol. Gallant ddewis rhwng gwaith brics, gwaith saer, gwaith plymiwr, trydanol a gwaith paratoi’r pridd.

Pryd mae Redrow Homes fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae Redrow yn dechrau derbyn ceisiadau ym mis Mawrth.

Beth mae Redrow Homes yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Mae’r gofynion yn amrywio o grefft i grefft, ond yn gyffredinol, hoffai Redrow i’r ymgeiswyr fod â phum cymhwyster TGAU, er nad yw hynny’n hanfodol. Blaengaredd a brwdfrydedd yw’r meini prawf pwysicaf. Mae’r cwmni’n recriwtio’r rhai sy’n gadael ysgol a myfyrwyr hŷn sydd am ailhyfforddi.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Mae tasgau bob dydd yn amrywio yn ôl prentisiaethau yr unigolyn, ac mae Redrow yn falch o’r ystod o dasgau a chyfrifoldebau sydd ar gael i’w brentisiaid. Gall prentisiaid crefft fod yn gweithio ar unrhyw beth o labro i gysylltu pibellau, yn dibynnu ar eu harbenigedd. Mae prentisiaid gweinyddol fel arfer yn canolbwyntio ar ddyletswyddau swyddfa. Gall Prentisiaid Peirianneg Arbenigol a Thirfesur fod yn trafod â chontractwyr Redrow, gan gynghori ar faterion/problemau’r safle.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda Redrow Homes?

Yn gyffredinol, bydd prentisiaid yn cael cyfle i aros gyda Redrow ar ôl cwblhau’r cwrs.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

St David's Park
Ewloe

CH5 3RX

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .