Skip to main content

Rhaglen Brentisiaeth Manwerthwr Jaguar Land Rover

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Y DU gyfan
Sector:
Cerbydau, Cludiant a Logisteg

Trosolwg o'r cwmni

Mae Jaguar Land Rover yn arweinydd technoleg yn y diwydiant modurol. Gyda threftadaeth Brydeinig unigryw ac ôl-troed byd-eang, gwerthodd y busnes 557,706 o gerbydau mewn 127 o wledydd yn 2019.

Cyfleoedd a gynigir

Mae Jaguar Land Rover yn gallu cynnig y prentisiaethau canlynol ar draws y rhwydwaith manwerthu:

·         Technegydd Gwasanaeth

·         Cynghorydd Gwasanaeth

·         Cynghorydd Cydrannau

·         Gwerthwr Gweithredol

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Bydd y mathau o waith y gall prentisiaid ddisgwyl eu gwneud yn dibynnu llawer ar y llwybr prentisiaeth a ddewiswyd.

 

Bydd prentisiaid yn dod yn rhan werthfawr o rwydwaith dysgu’r manwerthwr ac yn cael y sgiliau, y wybodaeth, yr adnoddau a’r cymorth angenrheidiol i lwyddo yn y swydd.

 

 

Buddion sydd ar gael

Bydd prentisiaid yn elwa ar gymorth pwrpasol gydol eu rhaglen i’w helpu i lwyddo. Wedi cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus byddant yn derbyn cymwysterau brand penodol a gydnabyddir yn genedlaethol a fydd yn eu tywys i lwybr gyrfa gyda Jaguar Land Rover.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn chwilio am bobl uchelgeisiol sy’n barod i ddysgu. Bydd ein hymgeiswyr delfrydol yn eiddgar i weithio gyda’n cerbydau uwch-dechnolegol gwych, yn gallu cyfathrebu â’n cwsmeriaid a gweithio fel rhan o un o dimau ein manwerthwr.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Mae prentisiaid yn cael eu talu yn unol â’r Cyflog Prentisiaeth Cenedlaethol a bennir gan y Llywodraeth.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Rydym yn recriwtio ar gyfer y rhaglen brentisiaethau drwy’r flwyddyn

Lleoliad

The Academy, 1 Bird road, Heathcote Industrial Estate
Heathcote, Royal Leamington Spa

CV34 6TB

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .