Skip to main content

Real SFX

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Mae cwmni o fri Real SFX, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA ac Emmy, yn darparu effeithiau arbennig ar gyfer teledu, ffilmiau a digwyddiadau arbennig.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae’r cynllun yn cynnig Prentisiaethau Digidol Creadigol am flwyddyn, gan weithio tuag at NVQ Lefel 4 yn y Cyfryngau Digidol Creadigol. Mae tua 95% o brentisiaid yn mynd ymlaen i weithio i’r cwmni ar lefel llawn amser neu lawrydd.

Pryd mae Real SFX fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae Real SFX yn recriwtio yn yr haf, gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ym mis Medi. Gall ymgeiswyr wneud cais am lefydd trwy Sgil Cymru ar y Gwasanaeth Cyfleoedd Prentisiaethau.

Beth mae Real SFX yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Does dim angen set sgiliau penodol i fod yn brentis gyda Real SFX, gan fod hyfforddiant mewnol yn golygu eich bod yn meithrin sgiliau a gwybodaeth wrth weithio. Yn hytrach, mae’r cwmni yn chwilio am rywun sy’n frwd dros y diwydiant a’r gallu a’r awydd i ddysgu.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Mae pob diwrnod yn wahanol yn Real SFX. Mae’r swyddi’n dibynnu ar y cynhyrchiad mae’r cwmni’n gweithio arno ar y pryd, felly rhaid i brentisiaid addasu i siwtio’r swydd wrth law. Fel arfer, bydd prentisiaid yn dilyn gweithdai am yr ychydig fisoedd cyntaf, yn dysgu sgiliau ymarferol fel peiriannau effeithiau arbennig. Unwaith iddyn nhw gael gwybodaeth ymarferol, bydd prentisiaid yn dechrau gweithio ar setiau ac yn rhoi eu sgiliau newydd ar waith.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda Real SFX?

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i weithio gyda mentoriaid a goruchwylwyr sydd wedi ennill eu plwyf yn y diwydiant. Mae gweithio ar set yn brofiad amhrisiadwy i brentisiaid sydd am fynd i weithio’n llawn amser yn y maes ar ôl cwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Unit 9A Freemans Park
Penarth Road

CF11 8EQ

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .