Skip to main content

Rhosllannerchrugog Community Council

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Rhosllannerchrugog a’r pentrefi cyfagos
Sector:
Gwasanaethau Cyhoeddus

Trosolwg o'r cwmni

Mae gan Gyngor Cymuned Rhosllannerchrugog Fynwent fawr ac mae wedi cael naw maes chwarae yn y gymuned yn ddiweddar. Mae’n cynnal y toiledau cyhoeddus, yn cadw parciau a mannau gwyrdd yn daclus, yn garddio a chyflawni dyletswyddau eraill.

Cyfleoedd a gynigir

Gweithiwr Cymunedol – CYNNAL A CHADW MYNWENT/GERDDI A DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL, CYNNAL A CHADW AC ARCHWILIO PARCIAU/MEYSYDD CHWARAE, DYLETSWYDDAU CYMUNEDOL CYFFREDINOL

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Garddio, casglu sbwriel, defnyddio strimyr a pheiriannau torri gwair, torwyr gwrychoedd ac ati - darperir hyfforddiant penodol i’r swydd. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys torri gwair, cynnal a chadw llwybrau, torri coed/gwrychoedd, paentio ffensys, tacluso beddau, dyfrhau cyffredinol a phob agwedd ar gynnal a chadw mynwent, helpu i reoli traffig/siwtardio a helpu pan fo angen mewn digwyddiadau cymunedol eraill.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Rydym yn chwilio am unigolyn gonest, dibynadwy sy’n gweithio’n galed, gyda diddordeb mewn gweithio yn yr awyr agored.

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Isafswm cyflog cenedlaethol.

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Dyma’r tro cyntaf i ni recriwtio.

Lleoliad

Bryn Maelor
Peter Street, Rhosllannerchrugog

LL14 1RG

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .