Skip to main content

Cyflogwyr Prentisiaethau

Rhestr gynyddol o gyflogwyr sy'n recriwtio prentisiaid yng Nghymru a'r cyfleoedd sy'n cael eu darparu ganddynt.

134 canlyniadau
Arddangosir y canlyniadau gan enw

FSG Tool and Die

Parc Busnes Llantrisant
Mae gennym dros 60 mlynedd o brofiad a’r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu offer tra-chywir.

GE Aviation Wales

Mae GE Aviation Wales yn arbenigo mewn cynnal a chadw, trwsio ac atgyweirio pob math o injans awyrennau masnachol.

Glamour Hut Studio

Stiwdio trin gwallt a harddwch sydd newydd agor ydym ni. Rydym yn bwriadu derbyn prentis i ddarparu hyfforddiant wythnosol a’i arwain trwy ei NVQ. Rydym yn chwilio am rywun hirdymor
Recriwtio prentisiaid yn: Gwallt a Harddwch

GoCompare

GoCompare yw’r wefan cymharu gwasanaethau ariannol ar gyfer yswiriant car, cartref, teithio ac anifeiliaid anwes.

Gourmet Grazing Limited

De Cymru
Cwmni arlwyo yng Nghasnewydd sy’n cyflenwi prydau ffres ac iach i gwsmeriaid bob wythnos ac yn cyflenwi bwyd bwffe ar gyfer digwyddiadau a chiniawau preifat.
Recriwtio prentisiaid yn: Arlwyo a Lletygarwch

Griffin Inn

Ruthin
Griffin Inn; bar, bwyty a llety ger Rhuthun, Gogledd Cymru.
Bwyd a diod o ansawdd uchel yn cael eu gweini mewn tafarn wledig wedi’i hadnewyddu’n hyfryd.
Recriwtio prentisiaid yn: Arlwyo a Lletygarwch

Guy Walmsley Limited

Wrecsam
Cyfrifyddion Siartredig Practis Cyhoeddus sy’n paratoi cyfrifon ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid.
Recriwtio prentisiaid yn: Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol

Gwyn Thomas & Co

Pwllheli
Cwmni o Gyfrifyddion Siartredig wedi’i leoli ym Mhwllheli. Rydym yn gweithredu ar ran amrywiaeth o fusnesau yn y Gogledd, yn darparu gwasanaeth prydlon ac effeithlon iddynt. Rydym yn ceisio meithrin perthynas fusnes hirhoedlog gyda’n cleientiaid.
Recriwtio prentisiaid yn: Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol

Heddlu Gogledd Cymru

Mae pencadlys y llu ym Mae Colwyn gyda phencadlysoedd adrannol yn Llanelwy a Chaernarfon
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n gwasanaethu poblogaeth o 687,800 gyda chymysgedd o Swyddogion Heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol a Staff yn gweithio mewn ystod eang o feysydd arbenigol ar draws y llu.
Recriwtio prentisiaid yn: Gwasanaethau Cyhoeddus

Henllan Bakery

Mae cwmni becws teuluol Henllan Bakery yn danfon cynnyrch ffres ar hyd a lled Gogledd, Canolbarth a De-orllewin Cymru, gororau Swydd Amwythig a Chilgwri.