Skip to main content

Gwyn Thomas & Co

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Pwllheli
Sector:
Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol

Trosolwg o'r cwmni

Cwmni o Gyfrifyddion Siartredig wedi’i leoli ym Mhwllheli. Rydym yn gweithredu ar ran amrywiaeth o fusnesau yn y Gogledd, yn darparu gwasanaeth prydlon ac effeithlon iddynt. Rydym yn ceisio meithrin perthynas fusnes hirhoedlog gyda’n cleientiaid.

Cyfleoedd a gynigir

Prentisiaethau Cyfrifeg ar bob lefel a gynigir gan y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu, Prentisiaeth Gweinyddu Busnes

Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud

Cadw llyfrau gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu cyfrifiadurol, Paratoi cyflogres, Cysoni cofnodion cyfrifyddu cleientiaid, Crynhoi cyfrifon busnesau bach, Helpu i baratoi ffurflenni TAW, cyfrifon blynyddol a ffurflenni treth gan ddefnyddio meddalwedd arobryn, yn ogystal ag ymarfer a gweinyddu CthEM

Buddion sydd ar gael

Byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o brofiad a hyfforddiant cyfrifyddu mewnol. Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar gyfrifyddu a’r sgiliau sy’n gysylltiedig â sut mae busnesau’n gweithio. Mae yna broses fentora ddatblygedig iawn.

Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd

Hyderus gyda rhifau, sylw i fanylder, cyffyrddus wrth ymdrin â chleientiaid ac awydd i ddarparu gwasanaeth eithriadol

Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid

Isafswm cyflog prentisiaeth am y 12 mis cyntaf a allai godi yn dibynnu ar allu a pherfformiad

Prosesau ac amserlenni recriwtio

Cyfnod yr haf yn barod ar gyfer y dyddiad newydd ar gyfer cychwyn coleg ym mis Medi

Lleoliad

New Street
Pwllheli

LL53 5HH

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .