Skip to main content

Henllan Bakery

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Mae cwmni becws teuluol Henllan Bakery yn danfon cynnyrch ffres ar hyd a lled Gogledd, Canolbarth a De-orllewin Cymru, gororau Swydd Amwythig a Chilgwri.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae’r becws yn croesawu dau brentis newydd Lefel 2 ac yn eu helpu i gamu ymlaen i feysydd arwain a rheoli tîm.

Pryd mae Henllan Bakery fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae cyfleoedd yn cael eu hysbysebu ym mis Chwefror, a’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cychwyn ar eu prentisiaethau ym mis Mawrth neu Ebrill.

Beth mae Henllan Bakery yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Mae’r becws yn cynnig cyfleoedd i rai sy’n frwdfrydig ynglŷn â phobi. Mae llawer o broses bobi’r cwmni yn gyfrifiadurol, sy’n golygu bod rhywfaint o sgiliau TG yn fanteisiol.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Mae prentisiaid yn treulio amser gyda thimau gwahanol er mwyn dysgu am bob agwedd ar y broses bobi.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda Henllan Bakery?

Mae prentisiaid yn ennill cyflog da ac yn gweithio mewn amgylchedd ymarferol, lle maen nhw’n rhan o’r cyfan, o’r diwrnod cyntaf. Mae gan bob pobydd gyfle i gamu ymlaen i hyfforddiant pellach, gan gynnwys ar lefel rheoli. Mae holl brentisiaid Henllan Bakery hyd yma wedi cael cynnig gwaith parhaol ar ôl cwblhau’r cwrs.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Colomendy Industrial Estate
Unit 18 Trem-Y-Dyffryn

LL16 5TA

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .