GoCompare
- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Sector:
Trosolwg o'r cwmni
GoCompare yw’r wefan cymharu gwasanaethau ariannol ar gyfer yswiriant car, cartref, teithio ac anifeiliaid anwes.Cyfleoedd a gynigir
Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?
Ar hyn o bryd, mae GoCompare yn cynnwys Prentisiaethau Gradd mewn peirianneg feddalwedd sy’n cymryd tair blynedd i’w cwblhau.
Pryd mae GoCompare fel arfer yn recriwtio prentisiaid?
Mae’r cyfnod ymgeisio yn cychwyn yn yr haf, ac mae prentisiaid yn dechrau ar brentisiaethau ym mis Medi/Hydref.
Beth mae GoCompare yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?
Mae agwedd a medrusrwydd yn bwysicach na chymwysterau. Mae’r busnes yn chwilio am ymgeiswyr sydd â gwir ddiddordeb angerddol mewn technoleg. Does dim angen cefndir technolegol er y byddai rhywfaint o sgiliau yn fanteisiol.
Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?
Bydd prentisiaid yn treulio diwrnod yr wythnos ym Mhrifysgol Abertawe a’r gweddill yn gweithio yn GoCompare. Mae ‘cyfaill’ yn cael ei neilltuo i bob prentis i’w gysgodi gydol ei flwyddyn gyntaf, gan ddysgu sut i godio ar y cyd o’r ail flwyddyn ymlaen, gan ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau ar gyfer eu gwaith codio eu hunain o dipyn i beth.
Beth yw manteision bod yn brentis gyda GoCompare?
Mae prentisiaid GoCompare yn mwynhau’r un manteision â gweithwyr parhaol. Mae’r rhain yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau a diwrnod i ffwrdd ar eich pen-blwydd, cynllun pensiwn, bonws blynyddol, gofal iechyd preifat, prisiau gostyngol ar aelodaeth o gampfa, a chyflog salwch llawn y cwmni. Hefyd, mae gweithwyr GoCompare yn gallu manteisio ar sesiynau MoodMaster Psychology Wales a swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Anabledd Cynhwysol
Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.Lleoliad
Imperial HouseImperial Way
NP10 8UH
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .