Skip to main content

GE Aviation Wales

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Mae GE Aviation Wales yn arbenigo mewn cynnal a chadw, trwsio ac atgyweirio pob math o injans awyrennau masnachol.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Mae GE Aviation Wales yn cynnig Prentisiaethau Lefel 3 (ôl-TGAU) mewn Gweinyddu Busnes a Pheirianneg a Phrentisiaethau Uwch (ôl-Safon Uwch) mewn Cyrchu a Chaffael.

Pryd mae GE Aviation Wales fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae GE Aviation yn dechrau recriwtio prentisiaid peirianneg ym mis Rhagfyr. Bydd prosesau recriwtio prentisiaid Gweinyddu Busnes a Chyrchu a Chaffael yn cychwyn fis Ebrill.

Beth mae GE Aviation Wales yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Bydd angen 5 cymhwyster TGAU gradd C neu uwch ar ymgeiswyr Prentisiaethau Lefel 3. Bydd angen i ymgeiswyr Prentisiaethau Lefel Uchaf fod â chymwysterau Safon Uwch gradd C neu uwch.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Bydd prentisiaid peirianneg yn cael profiad o’r broses atgyweirio injans o’r dechrau i’r diwedd. Bydd prentisiaid gweinyddu busnes yn gweithio mewn tri amgylchedd swyddfa gwahanol er mwyn cael dealltwriaeth gyffredinol dda o’r cyfan. Bydd prentisiaid cyrchu a chaffael yn meithrin dealltwriaeth fanwl o brosesau GE.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda GE Aviation Wales?

Wrth iddyn nhw ddatblygu, bydd prentisiaid GE yn cael cyfle i dreulio amser gydag arbenigeddau gwahanol. Bydd cyfle hefyd i gwblhau eu Gwobr Dug Caeredin aur, cefnogi Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham a chyfrannu at waith elusennol.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Caerphilly Rd
Nantgarw

CF15 7YJ

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .