Dechreuodd Parry and Evans yn y Trallwng ym 1961 ac, ers hynny, mae wedi esblygu a datblygu ar hyd y blynyddoedd. Sefydlwyd ein cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy yn 2007 ac mae wedi bod yn darparu gwasanaethau didoli gwastraff ailgylchu i amryw gwsmeriaid ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Heddiw, rydym yn cyflogi dros 50 o aelodau staff, yn prosesu dros 3000 o dunelli metrig o ddeunydd bob wythnos ac yn gweithredu 30 o gerbydau gyda thros 200 o sgipiau’n cael eu dosbarthu bob wythnos. Buddsoddwn yn barhaus yn yr offer, hyfforddiant a datblygiad gorau i sicrhau y gallwn gadw i fyny gyda’r galw uchel am waredu gwastraff i’w hailgylchu. Rydym yn parhau i dyfu i mewn i wahanol gynhyrchion rydym yn arbenigo ynddynt, yn benodol, cardbord, plastig, papur, pren, alwminiwm a gwastraff cyffredinol.