Skip to main content

Office of National Statistics

Nifer yr cyflogeion:
Lleoliadau:
Sector:

Trosolwg o'r cwmni

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw cynhyrchydd ystadegau annibynnol mwya’r DU sy’n gyfrifol am gasglu a chyhoeddi ystadegau sy’n ymwneud â’r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.

Cyfleoedd a gynigir

Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?

Ar hyn o bryd, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnig prentisiaethau ar bob lefel a maes ar draws y busnes. Mae’r rhain yn amrywio o Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes i Brentisiaethau Lefel Gradd mewn Gwyddorau Data.

Pryd mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fel arfer yn recriwtio prentisiaid?

Mae’r broses ymgeisio yn cael ei hysbysebu ar wefan y Gwasanaeth Cyfleoedd Prentisiaethau pan ac fel bo’r angen gydol y flwyddyn.

Beth mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?

Does dim gofynion sgiliau neu gymwysterau penodol ar gyfer prentisiaethau lefel mynediad, ond efallai y bydd rhai prentisiaethau lefel uwch yn gofyn am rywfaint o gymwysterau neu brofiad. Mae’n well gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol recriwtio pobl ar sail gallu a phersonoliaeth yn hytrach na sgiliau a phrofiad.

Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?

Bydd hyn yn dibynnu ar faes busnes prentisiaid unigol.

Beth yw manteision bod yn brentis gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol?

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnig cyfle i’w staff weithio oriau hyblyg neu ran amser lle mae hynny ar gael, gyda phecyn cyflog cystadleuol a 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, sy’n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth, ynghyd â chynllun pensiwn. Mae yna gyfleoedd bob amser i gamu ymlaen mewn gyrfa ar draws y busnes yn ogystal â chyfleoedd ehangach yn y Gwasanaeth Sifil.

Anabledd Cynhwysol

Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Lleoliad

Government Buildings
Cardiff Rd

NP10 8XG

Prentisiaethau gwag presennol

Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .