Monmouthshire County Council

- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Sir Fynwy
- Sector:
Trosolwg o'r cwmni
Awdurdod lleol sy’n cyflogi tua 4500 o bobl. Ein prif flaenoriaethau yw: Sicrhau bod pawb yn cael mynediad i addysg wych, Diogelu pobl agored i niwed, Cefnogi economi grefCyfleoedd a gynigir
Amrywiol, yn dibynnu ar y cyfleoedd sydd ar gael.
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau felly bydd y swyddi’n dibynnu ar y cyfleoedd sydd ar gael.
Buddion sydd ar gael
Bydd prentisiaid yn derbyn cefnogaeth lawn gan weithlu’r sefydliad, a Chydgysylltydd Graddedigion ac Interniaid ar Brentisiaeth yn ogystal â manteision eraill, e.e. gweithio hyblyg, mynediad i ddysgu ac amrywiaeth eang o bolisïau a gweithdrefnau ystyriol o deuluoedd.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau gwahanol ac angen pobl gyda phob math o gefndir a diddordebau. Mae’n gyfle felly i ni yn ogystal â chi. Os ydych chi’n barod i ddysgu fe welwch chi ein bod ni’n lle gwych i weithio.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
O 1 Ebrill 2021 bydd bob prentis yn derbyn £9.50 yr awr yn unol â Chyfradd Sylfaen y Cyflog Byw, waeth beth fo’i oedran neu gymhwyster.
Prosesau ac amserlenni recriwtio
Pan fydd cyfleoedd yn cael eu nodi.
Lleoliad
County Hall, The RhadyrUsk
NP151GA
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .