PCI Pharma Services
- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Sector:
Trosolwg o'r cwmni
Partner a darparwr contractau allanol gwasanaeth fferyllol llawn yw PCI Pharma Services – mae gan PCI 20 o gyfleusterau, tri ohonynt yn y De.Cyfleoedd a gynigir
Pa brentisiaethau maen nhw’n eu cynnig?
Mae’r cwmni’n cynnwys amryw o adrannau gan gynnwys TG, gwaith dadansoddol a pheirianneg.
Pryd mae PCI Pharma Services fel arfer yn recriwtio am brentisiaid?
Dylai unrhyw un â diddordeb fynd i wefan y cwmni’n rheolaidd am ddiweddariadau. Mae’r cwmni’n gallu cynnal pum prentisiaeth ar unrhyw adeg. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy CV a chyfweliad.
Beth mae PCI Pharma Services yn chwilio amdano mewn ymgeisydd?
Yn anad dim, mae PCI yn chwilio am brentisiaid a fydd yn ffitio’n dda i’r tîm ac sydd â dyfodol addawol yn y busnes. Mae unrhyw gymwysterau gofynnol bob amser yn benodol i’r rôl, er bod PCI hefyd yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi cwblhau prosiectau y tu allan i’r ysgol neu’r coleg neu rai sy’n gallu cyflwyno sgiliau bywyd a phrofiad ynghyd â graddau academaidd.
Pa fath o swyddi all prentisiaid ddisgwyl eu gwneud?
Gyda’r fath amrywiaeth o adrannau yn cynnig prentisiaethau, bydd dyletswyddau bob dydd pob prentis yn amrywio yn ôl y rôl dan sylw.
Beth yw manteision bod yn brentis gyda PCI?
Mae gan y cwmni agwedd ragweithiol o safbwynt prentisiaid, ac yn cynnig cymorth parhaus ar ôl iddyn nhw gwblhau eu prentisiaeth. Gall hyn olygu swydd mwy barhaus ar ddiwedd y brentisiaeth, a/neu gymorth ariannol i’w helpu i gamu ymlaen yn y maes o’u dewis.
Anabledd Cynhwysol
Ydym, rydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.Lleoliad
Bridgend Industrial Est.CF31 3RT
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .