Parry and Evans Limited
- Nifer yr cyflogeion:
- Lleoliadau:
- Glannau Dyfrdwy – CH5 2LR
- Sector:
Trosolwg o'r cwmni
Dechreuodd Parry and Evans yn y Trallwng ym 1961 ac, ers hynny, mae wedi esblygu a datblygu ar hyd y blynyddoedd. Sefydlwyd ein cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy yn 2007 ac mae wedi bod yn darparu gwasanaethau didoli gwastraff ailgylchu i amryw gwsmeriaid ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Heddiw, rydym yn cyflogi dros 50 o aelodau staff, yn prosesu dros 3000 o dunelli metrig o ddeunydd bob wythnos ac yn gweithredu 30 o gerbydau gyda thros 200 o sgipiau’n cael eu dosbarthu bob wythnos. Buddsoddwn yn barhaus yn yr offer, hyfforddiant a datblygiad gorau i sicrhau y gallwn gadw i fyny gyda’r galw uchel am waredu gwastraff i’w hailgylchu. Rydym yn parhau i dyfu i mewn i wahanol gynhyrchion rydym yn arbenigo ynddynt, yn benodol, cardbord, plastig, papur, pren, alwminiwm a gwastraff cyffredinol.Cyfleoedd a gynigir
Cynaliadwyedd mewn Ailgylchu Lefel 2.
Pa fath o waith y gall prentisiaid ddisgwyl ei wneud
Gweithio ar bob platfform casglu yn gwahanu deunyddiau wedi’u hailgylchu, gan gynnwys dad-fyrnu deunydd a gwagio paledi, gweithio ar beiriant torri riliau, deall ansawdd cynnyrch gan gynnwys deall sut mae grafimetreg yn gweithio, glanhau mewn ac o gwmpas y ffatri a deall elfennau cynnal a chadw sylfaenol. Ond deall deunyddiau wedi’u hailgylchu a’r cylch bywyd ailgylchu hefyd.
Buddion sydd ar gael
Bydd pob prentis llwyddiannus yn datblygu i swydd amser llawn barhaol yn Parry & Evans. Pan fydd yr unigolion wedi llwyddo i gwblhau eu prentisiaeth, byddant yn datblygu yn y busnes, boed trwy drwyddedau peirianwaith, cynnal a chadw, grafimetreg, arweinwyr llinell neu fanciwr.
Beth ydym yn chwilio amdano mewn ymgeisydd
Rydym yn chwilio am unigolion uchel eu cymhelliant ac uchelgeisiol, rhywun a fyddai’n hoffi dechrau eu gyrfa yn y diwydiant ailgylchu, sy’n gallu gweithio mewn amgylchedd cyflym ac sy’n ymarferol.
Faint ydych chi’n ei dalu i brentisiaid
£124.50 yr wythnos.
Prosesau ac amserlenni recriwtio
Dyma’r tro cyntaf rydym yn mynd i recriwtio am brentisiaid
Lleoliad
Unit 103, Zone 1Deeside Industrial Estate
CH52LR
Prentisiaethau gwag presennol
Os ydych chi'n edrych am rywbeth arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio prentisiaethau gwag presennol gan gyflogwyr eraill ar draws Cymru ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth .