Mae GOV.WALES yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Gall gwasanaethau llywodraeth osod cwcis ychwanegol, ac os felly, bydd ganddynt bolisi a baner cwcis ar wahân. Gallwch newid eich gosodiadau cwci ar unrhyw bryd.
Wrecsam
Mae MB Fitness yn gampfa 10,000 troedfedd sgwâr heb fod yn rhy ddrud sy’n cynnig popeth sydd ei angen arnoch, ynghyd â 40 dosbarth yr wythnos. Mae gennym ardal pwysau rhydd ar wahân, ardal cardio fawr ac ardal ffitrwydd ymarferol ar gyfer tasgau bob dydd.
Recriwtio prentisiaid yn: Teithio, Twristiaeth a Hamdden
Bedwas
Mae MII Engineering wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Pant Glas ym Medwas, ac mae’n gwmni peirianneg amlddisgyblaethol sy’n gweithio yn y sector Dur/Cemegol/Bwyd a sectorau diwydiannol eraill.
Recriwtio prentisiaid yn: Peirianneg
Sir Fynwy
Awdurdod lleol sy’n cyflogi tua 4500 o bobl. Ein prif flaenoriaethau yw: Sicrhau bod pawb yn cael mynediad i addysg wych, Diogelu pobl agored i niwed, Cefnogi economi gref
Gogledd Ddwyrain Cymru, Sir y Fflint
Gwesty - 21 Ystafell westeion
Ystafell Achlysuron
Cwrs Golff
Bar a Bwyty Recriwtio prentisiaid yn: Arlwyo a Lletygarwch
Broughton Shopping Park
Salon Ewinedd a Harddwch yng nghanol Parc Siopa Brychdyn. Cynnig Acryligion, Jel, Triniaethau Traed a llawer mwy.
Recriwtio prentisiaid yn: Gwallt a Harddwch
Canolfan Awyr Agored Plas y Brenin
Fel Canolfan Awyr Agored Genedlaethol, mae Plas y Brenin yn datblygu’r bobl sy’n datblygu’r sector awyr agored - o hyfforddwyr i reolwyr canolfan i arweinwyr alldeithiau i swyddogion Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a llunwyr polisi. Mae hyn yn cynnwys datblygu hyfforddwyr sy’n ysbrydoli, hyfforddwyr ac arweinwyr mewn chwaraeon antur, boed yn wirfoddolwyr neu’n gweithio’n broffesiynol yn y sector, er mwyn rhoi gwell cefnogaeth i bobl o bob cefndir i fod yn actif yn yr awyr agored.
Trwy gynnal cynadleddau, symposia a chyfarfodydd, rydym yn dwyn ynghyd ymarferwyr o bob rhan o’r DU (a thu hwnt) i rannu dysgu, trosglwyddo arferion da a chodi safonau. Mae’r lleoliad ysbrydoledig hwn, sydd ag enw da ledled y byd, wedi ymrwymo hefyd i helpu unigolion i feithrin eu sgiliau a hyder ar gyfer anturiaethau annibynnol. Sport England yw perchnogion Plas y Brenin ac mae’n cael ei reoli ar eu rhan gan yr elusen addysgol, y Mountain Training Trust.
Recriwtio prentisiaid yn: Teithio, Twristiaeth a Hamdden
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw cynhyrchydd ystadegau annibynnol mwya’r DU sy’n gyfrifol am gasglu a chyhoeddi ystadegau sy’n ymwneud â’r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
Caerdydd
Rydyn ni’n darparu atebion a gwasanaethau seiberddiogelwch cyflawn i ddiogelu ein cwsmeriaid. O osodiadau rhwydwaith ffisegol i atebion seiberddiogelwch, rydym yn helpu cwsmeriaid i ddiffinio strategaethau i ddiogelu eu busnes mewn unrhyw sefyllfa.
Recriwtio prentisiaid yn: Technoleg Ddigidol
Glannau Dyfrdwy – CH5 2LR
Dechreuodd Parry and Evans yn y Trallwng ym 1961 ac, ers hynny, mae wedi esblygu a datblygu ar hyd y blynyddoedd. Sefydlwyd ein cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy yn 2007 ac mae wedi bod yn darparu gwasanaethau didoli gwastraff ailgylchu i amryw gwsmeriaid ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Heddiw, rydym yn cyflogi dros 50 o aelodau staff, yn prosesu dros 3000 o dunelli metrig o ddeunydd bob wythnos ac yn gweithredu 30 o gerbydau gyda thros 200 o sgipiau’n cael eu dosbarthu bob wythnos. Buddsoddwn yn barhaus yn yr offer, hyfforddiant a datblygiad gorau i sicrhau y gallwn gadw i fyny gyda’r galw uchel am waredu gwastraff i’w hailgylchu. Rydym yn parhau i dyfu i mewn i wahanol gynhyrchion rydym yn arbenigo ynddynt, yn benodol, cardbord, plastig, papur, pren, alwminiwm a gwastraff cyffredinol.