Mae GOV.WALES yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Gall gwasanaethau llywodraeth osod cwcis ychwanegol, ac os felly, bydd ganddynt bolisi a baner cwcis ar wahân. Gallwch newid eich gosodiadau cwci ar unrhyw bryd.
Mae ROCKWOOL Limited yn rhan o Grŵp ROCKWOOL. Wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, De Cymru gyda dros 500 o weithwyr ledled y DU, rydym yn gwneud ystod lawn o gynhyrchion inswleiddio cynaliadwy sy'n perfformio'n dda ar gyfer y diwydiant adeiladu.
DU – Cymru, Lloegr, Iwerddon a thiriogaethau gweithredol eraill ledled y byd
Mae Roseview yn gweithio ym meysydd lletygarwch, llety, hamdden a chynllunio. Mae popeth rydym yn ei wneud yn seiliedig ar egwyddor pobl yn gyntaf. Cynhyrchion a gwasanaethau mae pobl wrth eu bodd â nhw wedi’u cyfuno â lefelau gwasanaeth eithriadol.
Recriwtio prentisiaid yn: Teithio, Twristiaeth a Hamdden
Ni yw bathdy allforio mwyaf y byd – ac rydym yn creu darnau arian, medalau, rhoddion a chyfleoedd buddsoddi. Gyda 1,100 blynedd o dreftadaeth ac arbenigedd, rydym yn arweinydd byd o ran cynllunio a chrefftio metelau gwerthfawr.
Mae Sensient Flavors & Fragrances Group yn datblygu, yn cynhyrchu ac yn dosbarthu systemau blas a phersawrau sydd i’w canfod mewn miloedd o gynhyrchion i ddefnyddwyr ym mhedwar ban byd. Mae systemau arbenigedd y cwmni’n gydrannau hanfodol o gynhyrchion bwyd, diodydd, nwyddau i’r tŷ a gofal personol. Mae blasau a phersawrau gwerth ychwanegol Sensient yn galluogi’n cwsmeriaid i ragori mewn marchnadoedd byd-eang hynod gystadleuol.
Mae Skye Instruments yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr ac sy’n cynllunio a gweithgynhyrchu amrywiaeth o offer electronig a ddefnyddir ym maes monitro amgylcheddol. Mae gan Skye enw rhagorol am gynhyrchion o ansawdd a gwasanaeth cwsmeriaid.
Rydym yn darparu gofal meithrinfa ar gyfer plant o newydd-anedig i 4 oed, ond hefyd yn cynnal clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol mewn pedair ysgol yng Ngogledd Caerdydd ynghyd â chlwb gwyliau.
Rydym yn dîm angerddol a chydweithredol sy’n cymryd yr agwedd y gallwn fynd i’r afael ag unrhyw beth ym maes rheoli achosion ar gyfer unigolion anabl a bregus yn y DU