- Cyflogwr:
- Concrete Canvas Ltd
- Lleoliad:
- Concrete Canvas Headquarters, Cowbridge Road, CF72 8HL, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Cyfraddau prentisiaethau
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- Catapwlt
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Technoleg Ddigidol
- Llwybr:
- Peiriannydd Seilwaith Digidol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 09 March 2026
- Dyddiad cau:
- 27 February 2026
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6797
Bydd gofyn i chi weithio ar safle yn Concrete Canvas Ltd ym Mhontyclun ar sail amser llawn (gydag amser a glustnodwyd ar gyfer darpariaeth ddigidol y rhaglen brentisiaethau). Cyfarwyddiadau Ychwanegol Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
• Blaenoriaethu’r holl atgyfeiriadau cymorth ac adnoddau TG - bod y cyswllt rheng flaen ar gyfer pob ymholiad gan ddefnyddwyr terfynol, gan eu datrys lle bynnag y bo hynny’n bosib
• Helpu defnyddwyr wrth ailosod cyfrineiriau a phroblemau eraill gyda chyfrifon
• Cynefino defnyddwyr newydd â systemau TG perthnasol
• Darparu cymorth wrth y ddesg ar gyfer cydweithwyr a leolir mewn swyddfa a chymorth o bell ar gyfer staff nad ydynt wedi’u lleoli mewn swyddfa
• Gwirio negeseuon e-bost ar gyfer gwe-rwydo yn unol â gofynion gan ddefnyddwyr terfynol
• Atgyweirio peiriannau argraffu a rheoli nwyddau
• Rheoli storfeydd TG a stoc sbâr
• Creu a dechrau ymgyrchoedd efelychu gwe-rwydo a darparu adborth gan ddefnyddwyr yn seiliedig ar y canlyniadau
• Cynorthwyo’r rheolwr TG wrth ddefnyddio caledwedd a meddalwedd newydd
• uwch gyfeirio materion mwy cymhleth at y rheolwr TG
Efallai y bydd cyfle hefyd i fod yn rhan o brosiectau TG lefel uchel o fewn i’r sefydliad megis:
• Gweithredu systemau
• Archwilio a diweddaru polisïau’r grŵp
• Defnyddio technolegau Microsoft 365
• Cynnal a chadw rhith-ystad y cwmni
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Concrete Canvas Ltd (CC) yng nghanol cyfnod cyffrous o dwf. Gyda thîm o oddeutu 80 rydym yn tyfu’n gyflym, yn cynhyrchu adnoddau sylweddol, ac yn buddsoddi’n drwm i gefnogi twf parhaus. Derbyniwyd CC nifer o ddyfarniadau, yn cynnwys St David Award for Innovation, Science & Technology, a’r King's Award for International Trade.
Rhinweddau:
• Canolbwyntio ar gwsmeriaid– Rhoi defnyddwyr a chleientiaid yn gyntaf wrth ddatrys problemau.
• Da wrth ddatrys problemau – Meddwl yn rhesymol a gweithio trwy faterion technegol yn dawel.
• Manwl gywir - Bod yn ofalus gyda thasgau, systemau a dogfennau.
• Trefnus - Rheoli amser a thasgau’n effeithiol.
• Cyfathrebwr clir – Esbonio pethau technegol mewn dull syml hawdd ei ddeall.
• Chwaraewr Tîm – Gweithio’n dda gyda chyd-weithwyr a phartneriaid allanol.
• Hyblyg – Cysurus wrth ddelio â newidiadau a heriau newydd.
• Hunan-gymhelliant – Achub y blaen a gweithio’n annibynnol.
• Ymwybyddiaeth uchel o Dechnoleg – Mwynhau dysgu systemau newydd a’r wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg.
• Canolbwyntio ar brosesau – Deall gwerth dilyn camau clir ac arferion da.
• Dibynadwy - Dibynadwy, teilwng o ymddiriedaeth ac yn gyson.
• Proffesiynol – Cwrtais, parchus a cadarnhaol ym mhob sefyllfa.
Gofynion
Sgiliau
Sgiliau/Profiad Gofynnol:
Sgiliau:
• Sgiliau datrys problemau cadarn ar draws amgylcheddau, cymwysiadau a chaledwedd Windows.
• Dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau rhwydweithio a chymorth seilwaith.
• Sgiliau cyfathrebu a dogfennu ardderchog.
• Gallu i reoli a blaenoriaethu tasgau niferus yn effeithiol mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym.
• Parodrwydd i ddysgu a chyfrannu at brosiectau a mentrau technegol parhaus.
Cymwysterau/Profiad Dymunol:
• Profiad profedig ym maes cymorth technegol neu mewn rôl systemau TG.
• Profiad o weithio gyda systemau tocynnu a rheoli digwyddiadau o’r dechrau i’r diwedd.
• Cymhwyster Lefel 3 sy’n gysylltiedig â TG
• Profiad blaenorol o gynefino cleientiaid
• Profiad o amgylcheddau bwrdd gwaith Mac a Linux
• Profiad o amgylcheddau gweinyddwyr Linux a Windows
• Profiad o systemau ERP, yn arbennig SAP Business One
• Prosiectau personol sy’n dangos cymhwysedd mewn gweinyddiaeth systemau TG
Cymwysterau
TGAU (neu gyfwerth) mewn Mathemateg a Saesneg Gradd A*-C / Lefel 2
Byddai cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) neu ddealltwriaeth o TG o fantais ond dim yn hanfodol.
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- Catapwlt
- Training provider course:
- Prentisiaeth Lefel 3 Peiriannydd Seilwaith Digidol
Ynglŷn â'r cyflogwr
Concrete Canvas LtdConcrete Canvas Headquarters
Cowbridge Road
Pontyclun
Vale of Glamorgan
CF72 8HL
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Os byddwch yn llwyddiannus, fe'ch gwahoddir yn y lle cyntaf i asesiad yn ‘Catapwlt’ (dros Teams) i gadarnhau cymhwyster - sicrhewch fod gennych brawf adnabod ac unrhyw dystysgrifau perthnasol ar gael. Bydd cais yn cael ei anfon atoch trwy Blatfform Digidol Smart Assessor Catapwlt ac mae’n ofyniad gorfodol i fynychu ein Sesiwn Ymwybyddiaeth i Brentisiaid.
Sut i wneud cais
E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon
Bydd gofyn i chi weithio ar safle yn Concrete Canvas Ltd ym Mhontyclun ar sail amser llawn (gydag amser a glustnodwyd ar gyfer darpariaeth ddigidol y rhaglen brentisiaethau). Cyfarwyddiadau Ychwanegol Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.