Skip to main content

Prentis - Gweinyddu Glanhau Cyfleusterau

Cyflogwr:
Rhondda Cynon Taf Council [RCT]
Lleoliad:
Ty Elai, Rhondda Cynon Taff CBC, Heol Dinas Isaf, East, Williamstown, CF40 1NX, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg Y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Sector:
Gwasanaethau Eiddo
Llwybr:
Gwasanaethau Glanhau ac Amgylcheddol
Dyddiad cychwyn posibl:
01 September 2025
Dyddiad cau:
29 May 2025
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
6375
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

1. Cynorthwyo gyda dyletswyddau a chyfrifoldebau gweinyddol cyffredinol.
2. Delio â galwadau ffôn a negeseuon e-bost arferol gan staff / cwsmeriaid mewnol ac allanol ynghyd ag ymholiadau wyneb yn wyneb gan ymwelwyr â'r swyddfa.
3. Cefnogi'r gwaith o gynnal a chadw systemau cronfa ddata sy'n cael eu defnyddio i gofnodi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwasanaeth Glanhau Cyfleusterau.
4. Cadw cofnodion ar systemau cyfrifiadurol a systemau rheolaeth ariannol eraill a chyfrannu at waith papur a chronfeydd data cysylltiedig.
5. Paratoi data ystadegol, gwybodaeth ac adroddiadau yn ôl yr angen gan y gwasanaeth.
6. Darparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel i'r maes gwasanaeth.
7. Gweithio'n broffesiynol a chynnal delwedd gadarnhaol o'r Cyngor yn y gweithle.
8. Hyfforddiant yn y swydd gan staff profiadol a gwybodus

9. Cwblhau'r Fframwaith Prentisiaeth a manteisio ar unrhyw hyfforddiant arall sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys hyfforddiant gan oruchwyliwr a hyfforddiant wrth y gwaith.

Gofynion

Sgiliau

Mae'r garfan Glanhau Cyfleusterau yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a all ffynnu mewn amgylchedd swyddfa prysur. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sylw craff i fanylion, y gallu i addasu, a'r gallu i reoli blaenoriaethau sy'n newid yn effeithiol. Mae sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i gyflawni dyletswyddau gweinyddol cyffredinol. Dylai'r unigolyn fod yn gyfforddus yn gweithio yn rhan o garfan ac yn annibynnol, ac ar ei liwt ei hun.

Mae’r swydd yma'n rhoi cyfle gwych i gydweithio â staff profiadol, ennill gwybodaeth werthfawr, a datblygu sgiliau a fydd yn meithrin twf proffesiynol wrth sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu.

Cymwysterau

N/A

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Na
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg Y Cymoedd
Training provider course:
Bydd yr holl brentisiaid yn cael eu cefnogi i gyflawni cymhwyster Lefel 3 ym maes Gweinyddiaeth Busnes drwy goleg lleol.

Ynglŷn â'r cyflogwr


Ty Elai
Rhondda Cynon Taff CBC, Heol Dinas Isaf, East, Williamstown
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 1NX

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

TBC

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now