Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Eiddo a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 17/11/2022 ACW Fframwaith Rhif. FR05046
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
49 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwaith Glanhau.
Gofynion mynediad
Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a gyda gwahanol brofiadau. Nid oes gofynion sylfaenol ac nid yw cymwysterau ffurfiol yn angenrheidiol.
Gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth eang o lwybrau mynediad, gan gynnwys astudiaethau Amgylcheddol a Thir Bagloriaeth Cymru.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt, bod yn barod i weithio fel rhan o dîm a bod â diddordeb brwd mewn darparu gwasanaethau o safon uchel i gwsmeriaid.
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod gan yr ymgeiswyr gyfle teg i arddangos eu gallu ac er mwyn teilwra rhaglenni i ateb anghenion unigolion, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.
Os bydd unigolion yn gweithio fel glanhawyr ffenestri neu lanhawyr arbenigol, bydd angen iddynt weithio ar uchder ac mewn mannau caeedig.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Goruchwylio Gwaith Glanhau
Lefel 3: Goruchwylio Gwaith Glanhau Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Goruchwylio Gwaith Glanhau | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Goruchwylio Gwaith Glanhau | 179 | 168 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Goruchwylio Gwaith Glanhau – 49 credyd/347 awr
Isafswm o 11 credyd Cymhwysedd*
Isafswm o 10 credyd Gwybodaeth*
12 credyd ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
*16 credyd sy’n weddill i gael eu cyflawni o’r unedau Dewisol cyfun
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Dilyniant
Lefel 3: Goruchwylio Gwaith Glanhau
Dilyniant i’r Brentisiaeth Lefel 3 hon
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaethau Glanhau a Chymorth Amgylcheddol
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaethau Cyfleusterau
Dilyniant o’r Brentisiaeth Goruchwylio Gwaith Glanhau hon
- Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Cyfleusterau
- Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheoli
- Gradd Sylfaen a chymwysterau Lefel Gradd mewn Rheoli
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae nifer o resymau dros yr anghydbwysedd mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sy’n cynnwys o bosibl,
- bod gwaith rhan-amser yn dueddol o ddenu mwy o fenywod
- nid yw glanhau’n cael ei ystyried yn ddiwydiant deniadol a’r ffaith bod cyfleoedd gyrfaol hirdymor da yn y sector.
Mae Instructus Skills yn cymryd y camau a ganlyn i fynd i’r afael â phroblemau amrywiaeth yn y gweithle:
- Codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion am wasanaethau glanhau a gwasanaethau amgylcheddol lleol fel gyrfa
- Drwy weithio gyda chynghorwyr gyrfaoedd ysgolion a ffeiriau gyrfaoedd
- Menywod a Gwaith sy’n cynorthwyo menywod i gyflawni eu potensial
- Defnyddio lluniau nad ydynt yn dangos stereoteipiau ar y wefan yrfaoedd ac mewn deunyddiau gyrfaoedd
- Astudiaethau achos ar gyfer prentisiaid sy’n adlewyrchu mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
Gwelir prentisiaethau fel llwybr hanfodol i annog, a hwyluso, mwy o amrywiaeth o unigolion i ymuno â’r diwydiant, ac felly mae’r amodau mynediad i’r llwybr hwn yn hyblyg iawn.
Mae’r llwybr Gwasanaethau Glanhau a Chymorth Amgylcheddol hefyd yn ymwneud ag annog cynhwysiant cymdeithasol, gan sicrhau bod mwy o bobl yn y sector yn cyflawni cymwysterau lefel 2 o leiaf, gan gynnwys sgiliau llythrennedd a rhifedd.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i’r Diwydiant na dyrchafiad oddi mewn i’r diwydiant.
Bydd Instructus Skills yn monitro nifer y bobl sy’n cofrestru ar gyfer Prentisiaethau ac yn eu cyflawni drwy gyfarfodydd ei Fwrdd Cyflogwyr a bydd yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i gofrestru ar gyfer Prentisiaeth a’i chyflawni fel rhan o’n Strategaeth ar Gymwysterau’r Sector.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Goruchwylio Gwaith Glanhau - Lefel 3
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Sgiliau Goruchwylio Gwaith Glanhau yn darparu’r wybodaeth a’r cymhwysedd sylfaenol ar gyfer y llwybr hwn.
Mae’r isafswm gofynnol o 10 credyd Gwybodaeth a Chymhwysedd wedi’u cynnwys o fewn yr unedau Gorfodol a nodir isod:
Grŵp A Gorfodol
- Goruchwylio staff glanhau (2 Gwybodaeth, 2 Cymhwysedd)
- Cyfrannu at weithredu systemau ac arferion gorau mewn glanhau (1 Gwybodaeth,1 Cymhwysedd)
- Cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau unigolion yn y gweithle (4 Gwybodaeth)
- Datblygu a gweithredu cynllun asesu risg yn eu maes cyfrifoldeb eu hunain (2 Gwybodaeth, 4 Cymhwysedd)
Grŵp Gorfodol B
- Monitro a datrys problemau gwasanaethau i gwsmeriaid (1 Gwybodaeth, 5 Cymhwysedd)
NEU
- Rhoi argraff gadarnhaol o’ch hunan a’ch sefydliad i gwsmeriaid (1 Gwybodaeth, 4 Cymhwysedd)
Bydd agweddau pellach ar Wybodaeth a Chymhwysedd yn cael eu cwmpasu drwy gwblhau unedau sy’n werth 16 credyd yn Grŵp Dewisol C.
Rhaid i brentisiaid sydd eisoes wedi cyflawni’r deilliannau cymhwysedd a/neu wybodaeth cyn cael mynediad i’r brentisiaeth ddewis opsiynau sy’n rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt