Skip to main content

Technegydd Cymorth Cwsmeriaid

Cyflogwr:
Flotek
Lleoliad:
Principality House, Litchard Industrial Estate, CF312BB, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Arall
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
ITEC Digital Training Ltd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Sector:
Technoleg Ddigidol
Pathway:
Peiriannydd Seilwaith Digidol
Dyddiad cychwyn posibl:
27 January 2025
Dyddiad cau:
20 January 2025
Safbwyntiau ar gael:
2
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5715

Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.

vacancies@itecdigitaltraining.co.uk


Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Ynglŷn â Flotek:
Flotek Group yw’r Cwmni Tech yn y De-orllewin sy’n tyfu fwyaf oll ac yn darparu TG a
thechnoleg gyfathrebu i fusnesau bach a chanolig.
Mae gennym leoliadau gwerthiannau a chymorth rhanbarthol ledled y De-orllewin. Mae ein
twf uchelgeisiol yn canolbwyntio ar ein gwerthoedd allweddol a’n rheolau sylfaenol, gyda
phob un o’n cynhyrchion a’n gwasanaethau yn cael eu darparu gydag arbenigedd,
brwdfrydedd a chalon.
Ynglŷn â’r Rôl:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar wasanaethau cwsmeriaid gyda
phrofiad blaenorol o weithio yn y sector TGCh, mewn swydd Ddesg Gymorth TG/Telegyfathrebu yn
ddelfrydol.
Byddwch yn gyfrifol am ateb galwadau gan gwsmeriaid sydd angen cymorth technegol ac am
flaenoriaethu eu galwadau yn syth er mwyn eu helpu a chau’r ymholiad hwnnw. Os nad oes modd i
chi helpu, byddwch yn gyfrifol am gymryd yr holl fanylion perthnasol oddi wrth y cleient a’u pasio
ymlaen at y tîm peirianneg.

Gwybodaeth ychwanegol

• Ateb galwadau ffôn gan gwsmeriaid sydd angen cymorth technolegol
• Sicrhau bod anawsterau a phroblemau cwsmeriaid yn cael eu hateb a’u datrys yn
unol ag unrhyw CLG
• Dangos perchenogaeth, atebolrwydd ac anelu at ‘Datrysiad Galwad Cyntaf’
• Ymdrin á phroblemau a datrys anawsterau meddalwedd a chaledwedd o bell dros y
ffôn a thrwy e-bost. Os nad oes modd i chi eu datrys yn y lle cyntaf, bydd disgwyl i
chi flaenoriaethu’r ymholiad a’i basio ymlaen at y tîm peirianneg
• Archwilio a monitro unrhyw faterion sy’n gysylltiedig â Thelegyfathrebu, TGCh,
rhwydweithiau, gweithfannau, gliniaduron a pherfformiad cymsywsiadau.
• Cyfathrebu’n glir ac effiethiol â phen-ddefnyddwyr, cydweithwyr a rheolwyr i ddatrys
materion yn gyflym a sicrhau boddhad cwsmeriaid
• Sicrhau bod unrhyw achosion agored yn cael eu ddiweddaru â’r wybodaeth
berthnasol a bod cwsmeriaid yn cael eu diweddaru’n rheolaidd
• Cyfrifol am ddarparu gwasanaeth dosbarth cyntaf yn gyson
• Darparu ychwanegiadau a diweddariadau i ddogfennau prosesu cyfredol gan sicrhau
ein bod yn diweddaru ein datrysiadau’n gyson

Gofynion

Sgiliau

• Mae cefndir ym meysydd Telegyfathrebu a/neu TGCh yn hanfodol
• Profiad cadarn ym maes gwasanaethau cwsmeriaid (mae sgiliau ardderchog yn
ysgrifenedig ac ar lafar yn ofynnol)
• Hoffi gweithio fel rhan o dîm
• Teimlo’n gysurus wrth ddefnyddio CRM a datrysiadau dogfennau
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog.

Tâl a Buddion
• Cyflog sylfaenol o £23,000-£25,000
• Cynllun Cyfrannau Ecwiti Staff
• Cymhelliad am atgyfeirio cwsmeriaid newydd
• Parcio ar safle
• 21 diwrnod o wyliau yn codi i 25 ar ôl 4 blynedd o wasanaeth (yn ogystal â gwyliau
banc)

Cymwysterau

TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Saesneg Gradd A*-C / Lefel 2
TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc TG: Dymunol

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Na
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
ITEC Digital Training Ltd
Training provider course:
Peiriannydd Rhwydwaith Mewnol Digidol – Prentisiaeth Lefel 3

Ynglŷn â'r cyflogwr

Flotek
Principality House
Litchard Industrial Estate
Bridgend
Bridgend
CF312BB

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Os byddwch yn llwyddiannus, fe'ch gwahoddir i asesiad yn ITeC Digital Training trwy Teams i gadarnhau cymhwyster - sicrhewch fod gennych brawf adnabod ac unrhyw dystysgrifau perthnasol. Byddwch yn derbyn cais trwy’r Llwyfan Digidol Asesydd Clyfar Hyfforddiant Digidol ITeC ac mae’n ofyniad gofynnol eich bod yn cyflawni ein sesiwn Ymwybyddiaeth o Brentisiaethau.

Sut i wneud cais

E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon

Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.

vacancies@itecdigitaltraining.co.uk