Skip to main content

Technegydd Cymorth i Gwsmeriaid

Cyflogwr:
Flotek
Lleoliad:
Principality House, Litchard Industrial Estate, CF312BB, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Gwerth blynyddol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
ITEC Digital Training Ltd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Sector:
Technoleg Ddigidol
Llwybr:
Peiriannydd Seilwaith Digidol
Dyddiad cychwyn posibl:
31 March 2025
Dyddiad cau:
28 April 2025
Safbwyntiau ar gael:
2
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5715

Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.

vacancies@itecdigitaltraining.co.uk


Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

• Ateb galwadau ffôn gan gwsmeriaid yn gyflym mewn dull cwrtais, cyfeillgar a phroffesiynol.
• Dangos atebolrwydd ac empathi a dealltwriaeth o ymholiad y cwsmer i asesu effaith a pha mor frys yw’r ymholiad.
• Gofyn cwestiynau perthnasol i helpu i ganfod anghenion y cwsmer.
• Cofnodi tocynnau clir a manwl i sicrhau bod technegwyr yn gallu mynd ati i weithio ar ymholiadau cwsmeriaid yn syth.
• Ceisio datrys problemau sylfaenol lle y bo’n briodol, ar yr un pryd â rheoli’r ciw o alwadau a’r nifer o docynnau.
• Gosod disgwyliadau i’r cwsmer o ran adolygu a datrys ei ymholiad.
• Sicrhau bod y cwsmer yn cael ei ddiweddaru os oes angen rhoi mwy o sylw i faterion.
• Cyfeirio materion sydd angen eu trin ar frys ymlaen at yr arbenigwyr TG a Thelegyfathrebu perthnasol .
• Cyfathrebu’n glir ac effeithiol â chwsmeriaid, cydweithwyr a rheolwyr i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu bodloni.
• Adnabod cyfleoedd i wella prosesau gwasanaethau cwsmeriaid gyda’r nod o ddarparu gwasanaeth o safon fyd-eang.

Gwybodaeth ychwanegol

Ynglŷn â Flotek:
Mae Flotek Group yn Gwmni Tech ar ei brifiant sy’n darparu technoleg TG a Chyfathrebu i ystod o fusnesau. Gyda safleoedd gwerthu a chefnogi rhanbarthol ar
draws y DU mae ein twf uchelgeisiol yn canolbwyntio ar werthoedd allweddol a rheolau hanfodol, gyda’r holl gynhyrchion a phob gwasanaeth yn cael eu darparu ag
arbenigedd, brwdfrydedd a chariad.
Mae Flotek yn gwmni 5 seren. Maent yn gwerthfawrogi eu staff gan gynnig amgylchedd gweithio a diwylliant ffantastig.

Ynglŷn â’r Rôl:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar wasanaethau cwsmeriaid gyda chefndir mewn canolfan gyswllt. Yn ddelfrydol rhywun sy’n meddu ar brofiad o fewn i’r sector TG/Telegyfathrebu neu rôl ar Ddesg Gymorth.
Byddwch yn gyfrifol am dderbyn galwadau ffôn gan gwsmeriaid sydd angen cymorth technegol ac am ddosbarthu eu galwadau yn syth. Byddwch yn casglu manylion a sicrhau bod gan y technegwyr sydd ar gael fanylion da wrth law er mwyn datrys
ymholiad y cwsmer.

Gofynion

Sgiliau

• Mae cefndir ym meysydd Telegyfathrebu a/neu TGCh yn hanfodol
• Profiad cadarn ym maes gwasanaethau cwsmeriaid (mae sgiliau ardderchog yn
ysgrifenedig ac ar lafar yn ofynnol)
• Hoffi gweithio fel rhan o dîm
• Teimlo’n gysurus wrth ddefnyddio CRM a datrysiadau dogfennau
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog.

Tâl a Buddion
• Cyflog sylfaenol o £23,000-£25,000
• Cynllun Cyfrannau Ecwiti Staff
• Cymhelliad am atgyfeirio cwsmeriaid newydd
• Parcio ar safle
• 21 diwrnod o wyliau yn codi i 25 ar ôl 4 blynedd o wasanaeth (yn ogystal â gwyliau
banc)

Cymwysterau

TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Saesneg Gradd A*-C / Lefel 2
TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc TG: Dymunol

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
Na
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
Na

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
ITEC Digital Training Ltd
Training provider course:
Peiriannydd Rhwydwaith Mewnol Digidol – Prentisiaeth Lefel 3

Ynglŷn â'r cyflogwr

Flotek
Principality House
Litchard Industrial Estate
Bridgend
Bridgend
CF312BB

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Os byddwch yn llwyddiannus, fe'ch gwahoddir i asesiad yn ITeC Digital Training trwy Teams i gadarnhau cymhwyster - sicrhewch fod gennych brawf adnabod ac unrhyw dystysgrifau perthnasol. Byddwch yn derbyn cais trwy’r Llwyfan Digidol Asesydd Clyfar Hyfforddiant Digidol ITeC ac mae’n ofyniad gofynnol eich bod yn cyflawni ein sesiwn Ymwybyddiaeth o Brentisiaethau.

Sut i wneud cais

E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon

Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.

vacancies@itecdigitaltraining.co.uk