Skip to main content

Syrfëwr Adeiladu Dros Dro dan Brentisiaeth

Cyflogwr:
Lleoliad:
Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1, Llys Cadwyn, CF37 4TH, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5306
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

Bydd y prentis yn datblygu sgiliau a galluoedd o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth staff â chymwysterau addas, ac yn helpu'r adran i wneud y canlynol:

1. Cwblhau'r Fframwaith prentisiaeth a manteisio ar unrhyw hyfforddiant arall sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys hyfforddiant gan oruchwyliwr a hyfforddiant wrth y gwaith.
2. Llofnodi contract dysgu gyda'r darparwr hyfforddiant/coleg a chadw at y cytundeb yma.
3. Mynd i gyfarfodydd carfan yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu rheolaidd gyda'r rheolwr llinell ac ati, a chymryd rhan ynddyn nhw.
4. Cynorthwyo â'r gwaith o arolygu, gwirio a chytuno ar lefel y gwaith sy'n gymwys am grant.
5. Cynorthwyo ag archwilio ceisiadau Rheoliadau Adeiladu amrywiol.
6. Cynnal arolygiadau dan arweiniad Swyddog Rheoli Adeiladu cymwys i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu.
7. Cynorthwyo gyda'r gwaith o baratoi manylebau ac amserlen waith meintioledig ar gyfer Grantiau.
8. Cynnal arolygiadau ar gyfer gwaith ar y gweill i wirio safon y crefftwaith o dan oruchwyliaeth syrfewyr cymwys.
9. Gwirio a chytuno ar lefelau gwaith heb ei ragweld dan arweiniad staff cymwys.
10. Archwilio, prisio a gwirio taliadau interim a therfynol dan oruchwyliaeth Syrfewyr cymwys.
11. Delio ag ymholiadau gan y garfan Gofal yn y Gymuned, partneriaid allanol, ymgeiswyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
12. Sicrhau safon uchel o ran gwasanaethau i gwsmeriaid.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaeth sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae'r Garfan Grantiau Tai a Rheoli Adeiladu’n dymuno penodi Syrfëwr Adeiladu Dan Brentisiaeth i helpu'r Syrfewyr Grantiau a’r Swyddogion Rheoli Adeiladu i gynnal archwiliadau ar y safle, amserlennu gwaith â chymorth grant, awdurdodi taliadau prisio, gwirio cynlluniau a chynnal archwiliadau dan arweiniad Swyddog Rheoli Adeiladu cymwys i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer gwahanol fathau o brosiectau adeiladu ledled Rhondda Cynon Taf.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn frwdfrydig a llawn cymhelliant a bydd angen iddyn nhw fod yn fanwl yn eu gwaith ac yn gallu arddangos sgiliau rhagorol wrth weithio’n rhan o garfan.

Gofynion mynediad:
Rhaid i'r ymgeisydd feddu ar 5 TGAU A–C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc gwyddonol, neu gymwysterau cyfatebol.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Yn rhan o'r Brentisiaeth yma, yn dibynnu ar y cymwysterau sydd gyda chi eisoes, byddwch chi naill ai'n cwblhau cymhwyster FfCCh (QCF) Lefel 3 Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig mewn coleg lleol neu'n cofrestru gyda Phrifysgol De Cymru i gwblhau Prentisiaeth Gradd Arolygu Adeiladau.

Faint fyddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden o fewn
Rhondda Cynon Taf
• Cerdyn gostyngiadau Vectis

O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddonol, neu gymwysterau cyfatebol.
Safon Uwch.
Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau). Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Does dim angen unrhyw brofiad uniongyrchol ond mae diddordeb mewn meithrin sgiliau a phrofiad yn y maes yma yn hanfodol.
Profiad perthnasol o weithio mewn swyddfa gan fewnbynnu ac adfer data o systemau cyfrifiadurol.
Ymroi i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.
Y gallu i gwblhau tasgau yn ôl amserlenni a gweithio at derfynau amser.
Gallu gweithio'n rhan o garfan.
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Y gallu i ddilyn rhaglen hyfforddi strwythuredig.

Cymwysterau

5 TGAU A-C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddonol, neu gymwysterau cyfatebol

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
QCF Lefel 3 Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig.

Ynglŷn â'r cyflogwr


Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1
Llys Cadwyn
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 4TH

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now