Skip to main content

Swyddog Cymorth Grantiau Tai Dros Dro dan Brentisiaeth

Cyflogwr:
Lleoliad:
Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1, Llys Cadwyn, CF37 4TH, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5310
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

1. Darparu cymorth gweinyddol yn rhan o'r Garfan Grantiau Tai a Rheoli Adeiladu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.

2. Cynorthwyo uwch aelodau'r garfan i ddarparu cyngor a gwybodaeth mewn perthynas â’r meini prawf cymhwystra ar gyfer Cymorth Grant Tai a cheisiadau Rheoli Adeiladu i'r darpar ymgeiswyr a hynny wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac yn ysgrifenedig.

3. Cyfrannu at waith cofrestru atgyfeiriadau ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, a cheisiadau am Gymorth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio, Cymorth Grant Adnewyddu a Mân Addasiadau ar y gronfa ddata grantiau.

4. Cyfathrebu â'r sawl sy'n gwneud cais am grantiau dros y ffôn neu'n ysgrifenedig gan ddefnyddio llythyrau safonol a hynny er mwyn casglu’r wybodaeth a’r dogfennau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’u ceisiadau.

5. Cynorthwyo’r Technegydd Cynorthwyol ar faterion Rheoli Adeiladu i greu a phrosesu ceisiadau rheoliadau adeiladu hyd at y cam dilysu, gan gynnwys darparu cyngor cyffredinol mewn perthynas â cheisiadau, cyfrifo ffioedd, cofrestru ceisiadau, cyhoeddi llythyrau cydnabod a dilysu safonol gan ddefnyddio systemau electronig a systemau perthnasol.

6. Cynorthwyo’r Technegydd Cynorthwyol ar faterion Rheoli Adeiladu i dderbyn a chofrestru hysbysiadau personau cymwys ac arolygwyr cymeradwy

7. Derbyn, cofrestru a dosbarthu llythyron.

8. Cyfathrebu â chontractwyr gan ddefnyddio llythyron safonol, e-byst a galwadau ffôn.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaeth sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd a throsglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o gefndiroedd amrywiol ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu, a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae'r garfan Grantiau Tai a Rheoli Adeiladu yn gweinyddu ceisiadau Grant yr Awdurdod i ddarparu cymorth ariannol i breswylwyr i wneud atgyweiriadau hanfodol i'w cartrefi, ac addasiadau i alluogi trigolion hŷn ac anabl i gynnal eu hannibyniaeth ac aros yn eu cartrefi. Maen nhw hefyd yn gweinyddu ceisiadau Rheoliadau Adeiladu i sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Adeiladu mewn perthynas ag eiddo preswyl a masnachol.

Rydyn ni am benodi person angerddol, sy'n awyddus i ddysgu ac sydd â'r gallu i addasu i dasgau amrywiol i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhagweithiol, llawn cymhelliant ac yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a llygad craff.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, NVQ yn flaenorol) mewn Gweinyddu Busnes, Lefel 3 drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.

Faint fyddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18-20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion
• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden o fewn
RhCT
• Cerdyn gostyngiadau Vectis

O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk.

Gofynion

Sgiliau

Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Profiad perthnasol o weithio mewn swyddfa gan fewnbynnu ac adfer data o systemau cyfrifiadurol.
Y gallu i gwblhau tasgau yn ôl amserlenni a gweithio at derfynau amser.

Cymwysterau

Ymrwymiad i weithio tuag at gymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer y swydd.

Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau).

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
Lefel 2/3 mewn Gweinyddu Busnes

Ynglŷn â'r cyflogwr


Rhondda Cynon Taff County Borough Council, 1
Llys Cadwyn
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 4TH

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld.

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now