Skip to main content

Prentis Pensiynau Dros Dro

Cyflogwr:
Lleoliad:
R C T Council Offices, Oldway House, Porth Street, CF39 9ST, Y Deyrnas Unedig.
Cyflog:
Isafswm cyflog cenedlaethol
Oriau yr wythnos:
31-40 awr yr wythnos
Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Lefel:
Prentisiaeth (Lefel 3)
Dyddiad cychwyn posibl:
02 September 2024
Dyddiad cau:
22 May 2024
Safbwyntiau ar gael:
1
Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
5340
Apply now

Ynglŷn â'r brentisiaeth

Dyletswyddau

1. Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys prosesu'r holl ohebiaeth drwy'r post a'r ohebiaeth electronig, gan sicrhau bod gwaith yn gywir ac yn cael ei gyflwyno i'r safon orau.

2. Gwaith mewnbynnu data rheolaidd a chynnal cofnodion electronig yn systemau'r Cyngor (yn benodol yn system weinyddu a gwaith y Gwasanaeth Pensiynau).

3. Cyfathrebu â holl aelodau'r Cynllun Pensiwn, Cyflogwyr y Cynllun a meysydd gwasanaeth mewnol eraill, a darparu safon uchel o wasanaeth i'r sawl sy'n galw ac yn ymweld.

4. Mynd i gyfarfodydd ac achlysuron yn ôl y gofyn.

Bydd disgwyl i chi:

5. Gweithio'n broffesiynol a chyfleu delwedd gadarnhaol o'r Cyngor yn y gweithle.

6. Unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn.

7. Sicrhau cyfrinachedd cleientiaid ar bob adeg.

8. Cwblhau'r Fframwaith Prentisiaeth a manteisio ar unrhyw hyfforddiant arall sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys hyfforddiant gan oruchwyliwr a hyfforddiant wrth y gwaith.

9. Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch y Cyngor ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau iechyd a diogelwch perthnasol yn unol â threfniadau lleol.

10. Rhoi cymorth i'r Cyngor chwarae ei ran i fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd ac i gyrraedd ei dargedau Lleihau Carbon ar draws yr holl wasanaethau y mae'n eu darparu ac, o ran y nwyddau, a'r gwasanaethau hynny y mae'n eu prynu neu eu comisiynu gan sefydliadau eraill.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am brentisiaid i fod yn rhan o'i Gynllun Prentisiaethau sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu, a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Am bwy ydyn ni'n chwilio?
Mae lefelau ardderchog o sgiliau rhifedd a chyfrifiadurol yn hanfodol i'r swydd, yn ogystal â sgiliau ysgrifennu a sgiliau ar lafar cryf gan y bydd gofyn i chi gyfathrebu'n effeithiol ag ystod o aelodau'r cynllun a chynrychiolwyr cyflogwyr.

Mae'r Gwasanaeth Pensiynau yn ymgymryd â gwaith gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a Chynllun Pensiwn Ymladdwyr Tân, sy'n cynnwys prosesu pob math o fuddion pensiwn ar gyfer pob categori o aelodaeth gwahanol. Mae'r prif ddyletswyddau swyddfa cyffredinol yn cynnwys prosesu'r post a gohebiaeth electronig, mewnbynnu data yn rheolaidd a pharatoi/cynnal cofnodion electronig ar y system gweinyddu pensiynau a llif gwaith.

Beth fyddwch chi'n ei astudio?
Bydd pob prentis yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster FfCCh (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, NVQ yn flaenorol) mewn Gweinyddu Busnes, Lefel 3 drwy ddarparwr hyfforddiant neu goleg lleol.

Faint fyddwch chi'n cael eich talu?
Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

• 21 oed neu'n hŷn £11.42
• 18–20 oed £8.60
• Dan 18 oed £6.40

Pecyn buddion

• Cewch eich talu wrth ddysgu
• Rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra
• Cymorth parhaus gan Gydlynydd Prentisiaethau penodol
• Hyfforddiant mewnol
• Gweithio hybrid
• Cynllun Pensiwn
• 26 diwrnod o wyliau blynyddol
• Ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden o fewn
RhCT
• Cerdyn gostyngiadau Vectis

O ganlyniad i feini prawf y Cynllun Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch.

Er enghraifft, os oes gyda chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Gofynion

Sgiliau

Y gallu i gyflawni cymhwyster QCF trwy goleg/ddarparwr Dealltwriaeth o wasanaethau'r Cyngor
Hyder wrth ddefnyddio TGCh (e.e. e-bostio a phrosesu geiriau) Gwybod sut i ddefnyddio pecynnau Microsoft Office
Sgiliau trefnu da, gallu cyflawni tasgau a chwrdd â therfynau amser

Cymwysterau

Does dim angen unrhyw brofiad uniongyrchol ond mae diddordeb mewn meithrin sgiliau a phrofiad yn y maes yma yn hanfodol
Ymroi i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol
Gallu gweithio'n rhan o garfan
Y gallu i gyfathrebu'n dda ar lafar ac yn ysgrifenedig
Y gallu i ddilyn rhaglen hyfforddi strwythuredig

Language

Sgiliau siarad Cymraeg:
No
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
No

Manylion y Cwrs

Darparwr Hyfforddiant:
Coleg y Cymoedd
Training provider course:
QCF lefel 3 mewn Busnes a Gweinyddu.

Ynglŷn â'r cyflogwr


R C T Council Offices, Oldway House
Porth Street
Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9ST

Hyderus o ran Anabledd

Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.

Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.

Trefniadau cyfweliadau

Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am drefniadau cyfweld

Sut i wneud cais

Click the button below to apply for this vacancy

Apply now