- Cyflogwr:
- Ouma Agency
- Lleoliad:
- 220 Urban Village, High St, SA1 1NW, Y Deyrnas Unedig.
- Cyflog:
- Cyfraddau prentisiaethau
- Oriau yr wythnos:
- 31-40 awr yr wythnos
- Darparwr Hyfforddiant:
- ITEC Digital Training Ltd
- Lefel:
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Sector:
- Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau
- Pathway:
- Y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
- Dyddiad cychwyn posibl:
- 31 January 2025
- Dyddiad cau:
- 15 January 2025
- Safbwyntiau ar gael:
- 1
- Cyfeirnod y brentisiaeth wag:
- 6136
Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.
vacancies@itecdigitaltraining.co.uk
Ynglŷn â'r brentisiaeth
Dyletswyddau
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm fel Prentis Marchnata Digidol. Dyma rôl amser llawn sy’n gyfle ffantastig i rywun sy’n awyddus o adeiladu gyrfa ym maes marchnata digidol, wrth ennill profiad ymarferol ar draws nifer o sianeli a thechnegau ar yr un pryd â chyfrannu at ymgyrchoedd go iawn sy’n llwyddo.
Prif Gyfrifoldebau:
• Cynorthwyo wrth gynllunio, gweithredu a monitro ymgyrchoedd marchnata digidol ar draws llwyfannau fel Google Ads, y cyfryngau cymdeithasol, e-byst a SEO.
• Cefnogi creu deunyddiau marchnata, yn cynnwys postiadau blog, cylchlythyrau e-bost a chopïau hysbysebu.
• Dadansoddi data perfformio a darparu mewnwelediadau i wella effeithlonrwydd ymgyrchoedd.
• Cyflawni ymchwil marchnata i adnabod tueddiadau, cystadleuwyr a chyfleoedd tyfu.
• Helpu i reoli gwefan y cwmni, gan sicrhau bod y cynnwys yn cael eu diweddaru’n gyson ac yn manteisio i’r eithaf ar chwilotwyr.
• Cydweithio ag aelodau’r tîm ar fentrau creadigol a strategol.
• Dysgu’n gyson am dueddiadau, offer a thechnegau marchnata digidol.
Gwybodaeth ychwanegol
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:
• Amgylchedd cefnogol a chydweithredol i ddatblygu eich sgiliau.
• Hyfforddiant a mentora ymarferol gan weithwyr marchnata profiadol.
• Cyfleoedd i weithio ar brosiectau cyffrous a chael effaith go iawn.
• Cyflog a phecyn buddion cystadleuol.
• Cyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa mewn tîm sy’n tyfu.
• 31 diwrnod o wyliau yn cynnwys gwyliau banc (pro-rata);
• Yn ogystal â 3 diwrnod o wyliau rhwng Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a diwrnod o wyliau ar Noswyl Nadolig
• Cynllun bonysau ac atgyfeirio cwmni-eang
Gofynion
Sgiliau
• Hoffter o farchnata digidol ac awch i ddysgu a datblygu yn y maes
• Manwl gywir a’r gallu i ddysgu’n gyflym.
• Sgiliau cryf wrth drefnu a rheoli amser.
• Mae dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau marchnata digidol yn ddymunol ond dim yn ofynnol (e.e.SEO, PPC, y cyfryngau cymdeithasol).
• Sgiliau ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar.
• Hyddysg ag offer fel Microsoft Office neu Google Workspace; bod yn gyfarwydd â llwyfannau fel Google Analytics, Canva neu feddalwedd adrodd yn fanteisiol.
• Agwedd ragweithiol a’r gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm.
Cymwysterau
TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Saesneg Gradd A*-C / Lefel 2
TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc TG: Dymunol
Language
- Sgiliau siarad Cymraeg:
- Na
- Sgiliau ysgrifennu Cymraeg:
- Na
Manylion y Cwrs
- Darparwr Hyfforddiant:
- ITEC Digital Training Ltd
- Training provider course:
- Prentisiaeth Lefel 3 – Y Cyfryngau Cymdeithasol ym myd Busnes
Ynglŷn â'r cyflogwr
Ouma Agency220 Urban Village
High St
Swansea
Swansea
SA1 1NW
Hyderus o ran Anabledd
Na, nid ydym yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU.
Noder bod pob prentisiaeth yn agored i bawb. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau wedi gweithio i ennill achrediad Hyder Anabledd. Dylech bob amser wneud cais am y brentisiaeth sy'n fwyaf addas i chi.
Trefniadau cyfweliadau
Os byddwch yn llwyddiannus, fe'ch gwahoddir i asesiad yn ITeC Digital Training trwy Teams i gadarnhau cymhwyster - sicrhewch fod gennych brawf adnabod ac unrhyw dystysgrifau perthnasol. Byddwch yn derbyn cais trwy’r Llwyfan Digidol Asesydd Clyfar Hyfforddiant Digidol ITeC ac mae’n ofyniad gofynnol eich bod yn cyflawni ein sesiwn Ymwybyddiaeth o Brentisiaethau.
Sut i wneud cais
E-bostiwch y cyfeiriad isod i wneud cais am y swydd wag hon
Peidiwch â gwneud cais am y swydd os oes gennych Radd mewn TG neu ddisgyblaeth debyg gan na fyddwch yn gymwys ar gyfer y swydd brentisiaeth.