Skip to main content

Pathway

Y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Creadigol, Dylunio a'r Cyfryngau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

60 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Y Cyfryngau Cymdeithasol

92 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Marchnata Digidol

138 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Marchnata Digidol.

Entry requirements

Lefel 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol a Lefel 3: Marchnata Digidol

Mae marchnata digidol a'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a digidol yn rhan allweddol o strategaethau ac arferion marchnata busnes heddiw.

Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr â diddordeb brwd yn y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr arddangos agwedd "medru gwneud" a meddu ar sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol yn sail ar gyfer y Brentisiaeth.

Bydd ymgeiswyr yn dod o gefndiroedd amrywiol ac yn amrywio o ran profiad, oed, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol a allai gyfrif tuag at gyflawni rhaglen Brentisiaeth. Mae enghreifftiau'n cynnwys dysgwyr sydd:

  • wedi dal swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg
  • wedi cwblhau profiad gwaith neu leoliad gwaith
  • wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu ddyfarniad tebyg
  • wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch
  • wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh Bagloriaeth Cymru
  • wedi dilyn prentisiaeth sylfaen mewn Gweinyddu Busnes, Technoleg Gwybodaeth a Marchnata

Lefel 4: Marchnata Digidol

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn yn ychwanegol at ofynion mynediad cyffredinol y Llwybr Prentisiaeth.

Fodd bynnag, byddai'n fanteisiol i ymgeiswyr gael profiad o'r diwydiant, neu fod wedi cwblhau Prentisiaeth y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol (Cymru) neu Brentisiaeth Uwch y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol (Lloegr) yn llwyddiannus

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol

Lefel 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Diploma yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0447/4 600/4967/4 42 420 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol 332 201
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma Lefel 3 yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes - Isafswm o 42 credyd

533 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 12 mis

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Marchnata Digidol

Lefel 3: Marchnata Digidol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Diploma Marchnata Digidol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0587/2 601/0110/6 74 740 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun. .

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Marchnata Digidol Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Marchnata Digidol 476 272
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma Lefel 3 Marchnata Digidol - Isafswm o 74 credyd

748 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 12 mis

 

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Marchnata Digidol

Lefel 4: Marchnata Digidol Cymwysterau

Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 4 Diploma Marchnata Digidol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/1177/0 601/2447/7 120 1200 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Marchnata Digidol Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Marchnata Digidol 570 291
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma Lefel 4 Marchnata Digidol - Isafswm o 120 Credyd

861 yw cyfanswm yr oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y rhaglen 12 mis

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Nid oes unrhyw ofynion eraill ychwanegol yn gysylltiedig â'r llwybr hwn

Progression

Lefel 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd prentisiaid, gan gynnwys profiad yn gysylltiedig â gwaith, gellir defnyddio nifer fawr o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3 hon yn y Cyfryngau Cymdeithasol. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Busnes a Gweinyddu neu Farchnata.
  • cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ar gyfer Arbenigwr Cymwysiadau TG, Defnyddiwr TG neu Weithiwr Proffesiynol TG.
  • ennill Bagloriaeth Cymru.
  • ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh.
  • ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r Brentisiaeth heb gymwysterau blaenorol.

Efallai y bydd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n symud ymlaen i Brentisiaeth y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol brofiad blaenorol yn y maes hwn, er nad yw hynny'n ofyniad ffurfiol. Dylid barnu pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu.

Dyma'r posibiliadau ar gyfer dilyniant o'r Brentisiaeth yn y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol (nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr):

  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Busnes a Gweinyddu Proffesiynol a TG.
  • Addysg Bellach neu Uwch i ddilyn cymwysterau'n ymwneud â Busnes, Marchnata a TG, gan gynnwys Cymwysterau Uwch Lefel 4,  Graddau Sylfaen a Graddau Llawn.
  • Cymwysterau Lefel Uwch mewn Arwain a Rheoli Tîm

Lefel 3: Marchnata Digidol

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid yn y gorffennol, gellir defnyddio nifer fawr o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3 hon mewn Marchnata Digidol. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • ennill Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ar gyfer Arbenigwr Cymwysiadau TG, mewn Meddalwedd TG, gweithiwr proffesiynol y we a thelathrebu, Marchnata a Busnes a Gweinyddu.
  • ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh.
  • ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth heb gymwysterau blaenorol.

Efallai y bydd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n symud ymlaen i Brentisiaeth y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol brofiad blaenorol yn y maes hwn, er nad yw hynny'n ofyniad ffurfiol. Dylid barnu pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu.

Dyma'r posibiliadau ar gyfer dilyniant o'r Brentisiaeth yn y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol (nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr):

  • Prentisiaethau Uwch Lefel 4 ar gyfer Busnes a Gweinyddu Proffesiynol a Gweithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu
  • Addysg Bellach neu Uwch i ddilyn cymwysterau'n ymwneud â Busnes, Marchnata a TG, gan gynnwys
  • Cymwysterau Uwch Lefel 4,  Graddau Sylfaen a Graddau Llawn.
  • Cymwysterau Lefel Uwch mewn Rheoli

Lefel 4: Marchnata Digidol

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid yn y gorffennol, gellir defnyddio nifer fawr o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch Marchnata Digidol ar lefel 4. Gall llwybrau o'r fath gynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Ennill Prentisiaeth yn y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol (Cymru)
  • Ennill Prentisiaeth Uwch yn y Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol (Lloegr) Ennill Prentisiaeth TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu (Cymru)
  • Ennill Prentisiaeth Uwch TG, Meddalwedd, Y We a Thelathrebu (Lloegr)
  • Ennill Prentisiaeth Marchnata (Cymru)
  • Ennill Prentisiaeth Uwch Marchnata (Lloegr)
  • Ennill Prentisiaeth Busnes a Gweinyddu (Cymru)
  • Ennill Prentisiaeth Uwch Busnes a Gweinyddu (Lloegr)
  • Ennill Diploma neu Dystysgrif Lefel 3 yn y Cyfryngau Cymdeithasol, mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh, Busnes a Gweinyddu neu Farchnata
  • Ennill Diploma Lefel 3 Marchnata Digidol neu Gymhwysedd TGCh Ennill Diploma Uwch (14-19)
  • Ennill cymwysterau Safon Uwch

Argymhellir isafswm o 2 flynedd o brofiad gwaith, ond efallai y bydd cyflogwyr am drefnu lle i unigolion ar y Brentisiaeth Lefel Uwch ar sail eu rhinweddau ac/neu allu.

Llwybrau dilyniant o Lefel 4 Marchnata Digidol

Bydd prentisiaid fwy na thebyg yn cael swydd sy'n seiliedig ar yr unedau a ddilynir a'r yrfa o'u dewis, ond byddant hefyd yn cael cyfle i symud ymlaen i'r canlynol:

  • Cymwysterau lefel uwch mewn rheoli
  • Addysg uwch ym maes Busnes, Marchnata neu ddisgyblaethau'n gysylltiedig â TG, a allai gynnwys Gradd Sylfaen neu Radd Lawn.
  • Cydnabyddiaeth gan gorff llafur neu broffesiynol o fewn eu disgyblaeth

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut maent yn mynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Mae adroddiad Cymru Ddigidol 2011 yn cynnwys manylion argymhellion allweddol i'w symud ymlaen gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i chylch gwaith digidol yn 2012. Roedd y rhain yn cynnwys datblygu mesurau i:

  • hyrwyddo'r defnydd o sgiliau digidol creadigol gan Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) yn yr holl sectorau  diwydiant;
  • gwella llythrennedd ddigidol ym mhob cyfnod addysg ac ar draws y boblogaeth yn gyffredinol;
  • helpu i ysgogi'r galw am fand-eang y genhedlaeth nesaf, a'r defnydd ohono;

Pwrpas y Llwybr hwn yw creu cyfleoedd i ddysgwyr wella a meithrin sgiliau digidol, gan eu galluogi i ddatblygu a chefnogi argymhellion Cymru Ddigidol. Bydd yn cefnogi datblygiad cymhwysedd a gwybodaeth yn y cyfryngau cymdeithasol ac mewn marchnata digidol, a fydd o gymorth i annog newydd-ddyfodiaid i'r gweithlu, gan sicrhau drwy hynny fynediad teg i bawb sy'n ymgeisio am y rhaglen.

Ystyrir y brentisiaeth hon yn llwybr hanfodol i annog, gwella ac uwchsgilio unigolion fel eu bod yn gallu ymuno â byd y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Nid oes unrhyw rwystrau o ran mynediad, a bwriedir i'r brentisiaeth ddarparu ar gyfer pob dysgwr waeth beth fo'i ryw, ei oedran, ei anabledd neu ei darddiad ethnig.

Er mwyn bodloni gofynion dysgwyr, gellir defnyddio nifer o wahanol arddulliau dysgu i gyflwyno'r cynnwys sy'n ofynnol ar gyfer dysgu i ffwrdd o'r gwaith.

Mewn sawl sector yn y gorffennol, mae cyflogwyr wedi disgwyl i newydd-ddyfodiaid fod wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd o leiaf. O ganlyniad i hynny, ceir cronfa fawr o ddoniau sydd heb eu defnyddio. Mae'r Llwybr yn anelu i gefnogi ac annog y bobl â'r doniau hynny i ymuno â'r sector diwydiant hwn sy'n datblygu. Nid oes unrhyw anghydbwysedd hysbys nac ymddangosiadol o fewn y gweithlu ar sail rhyw na hil.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol wedi tyfu'n gyflym, ac mae'r rhan fwyaf o'r sgiliau'n gysylltiedig â'r defnydd o'r rhain wedi'u hunan-addysgu, felly ceir diffyg ymwybyddiaeth o lefel y sgiliau sydd gan yr unigolyn.

Bydd y Llwybr hwn yn cefnogi hyfforddiant mwy ffurfiol ar gyfer y sector ac yn ehangu gwybodaeth a sgiliau'r gweithlu, wrth i'r sector hwn ddatblygu a thyfu.

Mae'r amrywiaeth a geir yn y gweithlu o brentisiaid yn adlewyrchu gweithlu'r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol yn gyffredinol

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 

Atodiad 1 Lefel 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Rhaid i brentisiaid gwblhau elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y Diploma Lefel 3 yn y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes

Daw 11 credyd o wybodaeth sylfaenol o'r unedau gorfodol a ganlyn:

  • Egwyddorion y Cyfryngau Cymdeithasol o fewn Busnes R/503/9324 - 6 chredyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Egwyddorion Allweddeiriau ac Optimeiddio M/503/9329 - 2 gredyd o ddeilliannau dysgu 1,3 a 4
  • Rheoli Rhwydweithio Cymdeithasol ar gyfer Busnes Y/503/9325 - 1 credyd o ddeilliant dysgu 2
  • Defnyddio Technolegau Cydweithredol T / 502/48080 - 2 gredyd o ganlyniadau dysgu 1,2 a 4

Atodiad 2 Lefel 3: Marchnata Digidol

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'n rhaid i brentisiaid gwblhau elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y Diploma Lefel 3 Marchnata Digidol 

Daw 19 credyd o wybodaeth sylfaenol o'r unedau gorfodol a ganlyn:

  • Uned 320 Egwyddorion marchnata a gwerthuso T/502/9935 - 7 credyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Uned 207 Deall yr amgylchedd busnes F/600/7799 - 2 gredyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Uned 208 Deall gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol wrth werthu a marchnata F/502/8206 - 2 gredyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Uned 304 Defnyddio technoleg gydweithredol T/502/48080 - 2 gredyd o ddeilliannau dysgu 1, 2 a 4
  • Uned 322 Metrigau a dadansoddeg marchnata digidol R/505/1585 - 4 credyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Uned 321 Datblygu eich proffesiynoldeb eich hun L/505/1954 - 2 gredyd o ddeilliannau dysgu 1, 3 a 4

Atodiad 3 Lefel 4: Marchnata Digidol

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Rhaid i brentisiaid gwblhau elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y Diploma Lefel 4 Marchnata Digidol  

Daw 33 credyd o wybodaeth sylfaenol o'r unedau gorfodol a ganlyn:

  • Agweddau moesegol a chyfreithiol marchnata digidol A/505/9096 - 4 credyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Cysyniadau busnes F/505/9097 - 7 credyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Metrigau a dadansoddeg marchnata digidol J/505/9098 - 4 credyd o'r holl ddeilliannau dysgu Cynllunio marchnata T/505/9095- 7 credyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Rheoli Prosiect T/504/1129 - 8 credyd o'r holl ddeilliannau dysgu
  • Datblygiad Personol a Phroffesiynol K/504/1449 - 3 chredyd o'r holl ddeilliannau dysgu

Document revisions

19 Tachwedd 2021